9.9 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Setiau teledu newydd yn tynnu sylw cleifion

Setiau teledu newydd yn tynnu sylw cleifion

0
542
TVs for Teifi Ward

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu pedwar teledu newydd ar gyfer Ward Teifi yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Nia Jones, Prif Nyrs y Ward: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu pedwar teledu newydd ar gyfer Ward Teifi.

“Bydd y setiau teledu hyn yn gwella gofal a phrofiad cleifion yn Ward Teifi. Mae llawer o’n cleifion yn gaeth i’r gwely ac mae gan rai gyflyrau asgwrn cefn, felly nid ydynt yn defnyddio’r ystafell ddydd nac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n digwydd yn yr ystafell ddydd.

“Mae gwylio’r teledu yn arfer cyffredin yn y rhan fwyaf o gartrefi, felly, mae darparu’r cyfleuster hwn yn normaleiddio arhosiad y cleifion ar Ward Teifi. Gall gwylio’r teledu helpu cleifion i ailgyfeirio eu ffocws o’u cyflwr a’u poen i’r rhaglen maen nhw’n ei gwylio.

“Mae cael teledu yn y baeau ward yn annog cymdeithasu, yn darparu adloniant, yn atal y teimlad o ynysu ac yn cynyddu trafodaeth rhwng cleifion a all ond cynorthwyo adferiad cleifion a gwella eu harhosiad ar Ward Teifi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch iwww.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.