Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £26,984 i ariannu adnewyddu ystafell staff fferyllfa Ysbyty Glangwili.
Oherwydd ei faint a’r nifer cynyddol o bobl yn ei defnyddio, roedd ystafell staff y fferyllfa wedi dod yn annigonol fel lle gorffwys.
Mae’r ystafell staff wedi’i huwchraddio, sy’n cynnwys cyfleusterau cegin a dodrefn newydd eu gosod, yn sicrhau y gall holl staff y fferyllfa fwynhau lle ymlaciol a chymryd seibiant mewn cysur.
Esboniodd John Harris, Pennaeth Fferyllfa Glangwili: “Roedd ystafell orffwys y staff wedi bod yn cael ei defnyddio ers dros 30 mlynedd ac yn wreiddiol roedd yn darparu ar gyfer 20 aelod o staff; mae dros 70 bellach.
“Mae’r ystafell wedi’i hadnewyddu’n darparu lle llawer mwy cyfforddus a hyblyg. Nawr gall staff y fferyllfa fwynhau ardal o ansawdd uchel, ymlaciol lle gallant gymryd peth amser i ffwrdd.
“Gobeithiwn y bydd gan yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu effaith gadarnhaol iawn ar ein staff, gan eu helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae creu lle ymlaciol i staff mor bwysig: mae’n rhoi seibiant o ofynion y dydd ac yn cefnogi lles staff yn fawr.
“Mae haelioni ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















