Mae Cymru’n Gweithio, y gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig – gan gefnogi ei gwsmer rhif 200,000.
Un o’r 200,000 o gwsmeriaid hyn oedd Anna o Abertawe. Ar ôl gadael ei swydd oherwydd cyflwr iechyd meddwl, cymerodd Anna, 52 oed, amser i ganolbwyntio ar ei llesiant. Gyda chymorth, ac yn raddol, dechreuodd deimlo’n barod i archwilio ei hopsiynau ar gyfer dychwelyd i’r gwaith.

Cyfeiriwyd Anna at Cymru’n Gweithio ar ôl mynychu digwyddiad i bobl dros 50 oed, lle cyfarfu â’r anogwr cyflogadwyedd, Aaron. “Fe siaradon ni yn y digwyddiad yn y ganolfan waith, ac yn ddiweddarach fe ges i apwyntiad fideo gydag Aaron i siarad am yr hyn oedd angen i mi ei wneud i ddychwelyd i’r gwaith,” meddai.
Gyda chefnogaeth Aaron, diweddarodd Anna ei CV, ymarferodd dechnegau cyfweliad, a chofrestrodd i dderbyn hysbysiadau swyddi. “Fe roddodd gyngor i mi ar ateb cwestiynau pan rydw i dan bwysau a sut i ymdopi â’u hateb a llwyddo mewn cyfweliad,” meddai hi.
Derbyniodd gymorth hefyd gan fentor cyflogaeth Cymunedau am Waith ac ymunodd â Cyfle Cymru, sef gwasanaeth mentora cymheiriaid sy’n helpu pobl i wella o broblemau iechyd meddwl. Helpodd y gefnogaeth gyfannol hon Anna i fagu hyder unwaith eto a chymryd camau bach, ymarferol tuag at gyflogaeth.

Yn ddiweddarach, cafodd Anna ei chyfeirio at rôl derbynnydd rhan-amser mewn meddygfa leol. “Dechreuais hyfforddi yno rai wythnosau yn ôl. Byddaf yn dechrau fy rôl derbynnydd rhan-amser yn swyddogol ym mis Mai. Dim ond 9.5 awr yr wythnos ydyw, felly nid yw’n ormod i mi,” meddai.
Wrth fyfyrio ar ei thaith, ychwanegodd Anna: “Mae help ar gael. Does ond angen i chi chwilio amdano. Roedd fy nghynghorwyr yn gefnogol iawn. Roedden nhw’n deall fy amgylchiadau a byth yn fy ngwthio i wneud rhywbeth cyn i mi fod yn barod.”
Pauline Smith o Gaerdydd oedd cwsmer rhif 200,000 a drodd at y gwasanaeth ar ôl cymryd diswyddiad gwirfoddol o’i rôl cynhyrchu radio yn gynharach eleni.
Roedd Pauline Smith, 57 oed, yn ansicr p’un a ddylai barhau i weithio’n llawrydd yntau dilyn yr hyn yr oedd yn teimlo’n angerddol drosto, sef addysgu ioga. Wedi’i hannog gan ffrind, archwiliodd y cynllun ReAct+ a gwnaeth apwyntiad gyda’r cynghorydd gyrfa, Gareth Richards yn ei chanolfan Cymru’n Gweithio leol.
Helpodd Gareth Pauline i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael drwy ReAct+, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfarwyddyd a grantiau wedi’u teilwra ar gyfer costau hyfforddi, teithio a gofal. Rhoddodd y sesiwn eglurder a hyder iddi feddwl am ei chamau nesaf, ac mae hi nawr yn aros i glywed yn ôl am gyllid ar gyfer hyfforddiant pellach.
Wrth fyfyrio ar y ddau brofiad, dywedodd Pauline: “Mae’n ymwneud llawer mwy â rhoi hyder i bobl i dderbyn eu bod nhw’n iawn. Roedd hi’n braf trafod gyda rhywun y ffaith fy mod i wedi colli gwaith, ac edrych ar ble roeddwn i ac i ble roeddwn i’n mynd i fynd.”

“Mae gan bawb rywbeth i’w gynnig pan maen nhw’n cerdded trwy’r drysau – dim ond darganfod beth ydyw a pha mor hyderus ydyn nhw yn ei wneud yw’r peth.”
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae cyrraedd ein cwsmer rhif 200,000 yn garreg filltir bwysig i Cymru’n Gweithio ac yn adlewyrchiad clir o’r effaith rydyn ni’n ei chael ar unigolion ac economi ehangach Cymru.
“Mae straeon Anna a Pauline yn tynnu sylw at sut rydym yn helpu pobl ym mhob cam o fywyd i feithrin eu hyder, datblygu eu sgiliau, a dod o hyd i waith ystyrlon. Boed yn gadael yr ysgol neu’r coleg, yn ymdopi â cholli gwaith, neu’n newid cyfeiriad, mae ein cynghorwyr wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu gwydn a medrus sy’n cadw Cymru i symud ymlaen.”
Mae Cymru’n Gweithio, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn cynnig cymorth personol i unrhyw un 16 oed ac yn hŷn – boed nhw’n dechrau allan, yn wynebu colli gwaith, neu am ailhyfforddi neu newid cyfeiriad.
Mae’r gwasanaeth ar gael ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb ledled Cymru. Mae’n helpu pobl i archwilio eu hopsiynau, meithrin hyder, a chymryd camau ymarferol tuag at eu cyfle nesaf.
P’un a ydych chi’n 16 oed ac yn ansicr beth sydd nesaf, neu os ydych chi ar gam diweddarach mewn bywyd ac yn wynebu colli gwaith, neu’n barod am newid – mae Cymru’n Gweithio yno i helpu.
Dysgwch fwy yn https://cymrungweithio.llyw.cymru/.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |














