Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) am eich cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.
Gan weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner eraill, ein nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bawb adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, gan alluogi cymunedau i ddathlu’n gyfrifol ac yn ddiogel.
Wrth i ni edrych ymlaen at y dathliadau llawn bwganod, tân gwyllt disglair a thanau gwyllt fydd yn ein gwresogi, mae’n bwysig parhau i fod yn ymwybodol o’r risgiau diogelwch tân sy’n gysylltiedig â’r dathliadau hyn. Mae gan GTACGC gyngor diogelwch hanfodol i’r rhai sy’n dymuno dathlu’r ddau achlysur hyn:
Diogelwch Calan Gaeaf:
Er bod Calan Gaeaf yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc wisgo gwisgoedd gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, a chynnal teithiau ‘losin neu lanast’, mae hefyd yn dod â phryderon ynghylch diogelwch tân. Mae GTACGC wedi tynnu sylw at rai o’r peryglon posibl a’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r risgiau, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn mwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel:
- Diogelwch Gwisgoedd: Gwiriwch bob amser am farc ‘CE’ ar wisgoedd Calan Gaeaf er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau diogelwch. Mae llawer o wisgoedd yn fflamadwy, felly osgowch fflamau agored. A yw eich canhwyllau yn eich peryglu chi a’ch cartref?
- Dewisiadau yn lle Canhwyllau Defnyddiwch ganhwyllau LED heb fflam ar gyfer effaith codi ofn heb y risg o dân. Mae’r rhain yn fwy diogel i blant ac ni fyddant yn chwythu allan yn y gwynt. Os ydych chi’n dewis defnyddio canhwyllau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gosod ymhell oddi wrth wrthrychau eraill, a pheidiwch byth â’u gadael heb oruchwyliaeth.
- Goruchwyliaeth: Cadwch lygad barcud ar blant ar bwys canhwyllau ac addurniadau. Osgowch osod eitemau fflamadwy ger allanfeydd neu rodfeydd
- Llwybrau Dianc: Gwnewch yn siŵr fod allanfeydd yn glir rhag ofn y bydd argyfwng – ni ddylai addurniadau byth rwystro llwybrau dianc.
Dywedodd Steven Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Mae risgiau tân yn cynyddu yn ystod adeg Calan Gaeaf, yn enwedig gyda fflamau agored mewn pwmpenni a gwisgoedd fflamadwy. Mae’n bosibl na fydd rhai gwisgoedd ffansi’n cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, dylech bob amser wirio am farc ‘CE’ ar wisgoedd ffansi.
“Ystyriwch ddefnyddio canhwyllau LED yn hytrach na rhai go iawn a chadwch allanfeydd yn glir o addurniadau i helpu i sicrhau noson ddiogel a phleserus. Cofiwch bob amser, os yw eich dillad yn mynd ar dân – ARHOSA, DISGYNNA, RHOLIA.”
———————————
Diogelwch Noson Tân Gwyllt:
Mae Noson Tân Gwyllt yn adeg i ddathlu, ond mae hefyd yn dod â risgiau diogelwch difrifol. Bob blwyddyn, mae GTACGC yn ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â thanau gwyllt anniogel a thân gwyllt sy’n cael eu camddefnyddio. Er mwyn eich helpu i fwynhau’r noson yn ddiogel, dyma rai awgrymiadau hanfodol:
- Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt ymlaen llaw i’w wneud yn ddiogel ac yn bleserus, a gwiriwch yr amser y gallwch chi gynnau tân gwyllt yn gyfreithlon.
- Prynwch gan adwerthwr ag enw da BOB AMSER a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol – prynwch dân gwyllt â marc CE neu farc UKCA yn unig.
- Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt (gan ddefnyddio tortsh os oes angen).
- Cyneuwch y tân gwyllt â thapr ac o bellter hyd braich a safwch ymhell yn ôl.
- Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt wedi iddo gael ei gynnau.
- Peidiwch â rhoi tân gwyllt mewn pocedi a pheidiwch byth â’u taflu.
- Cyfeiriwch rocedi tân gwyllt ymhell oddi wrth wylwyr.
- Peidiwch byth â defnyddio paraffin neu betrol ar goelcerth.
- Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd a bod yr amgylchedd yn ddiogel ar ôl gorffen
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn storio tân gwyllt yn unol â’r cyfarwyddiadau a restrir; dylid storio tân gwyllt yn eu pecyn gwreiddiol mewn lle sych ymhell o ffynonellau gwres neu danio.
- Storiwch dân gwyllt i ffwrdd oddi wrth blant ac anifeiliaid BOB AMSER.
- Os yw eich dillad yn mynd ar dân – ARHOSA, DISGYNNA, RHOLIA.
Dywedodd y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol Carl Williams:
“Yn draddodiadol, mae Noson Tân Gwyllt yn cael effaith sylweddol ar GTACGC ac asiantaethau partner. Er y gall fod yn noson hwyliog a difyr i’r teulu cyfan, gall tân gwyllt a choelcerthi beri risgiau diogelwch difrifol.
“Byddem bob amser yn argymell bod pobl yn mynd i arddangosfa tân gwyllt wedi’i threfnu gan mai dyma’r opsiwn mwyaf diogel, fodd bynnag, rydym yn deall y bydd rhai am gynnal eu harddangosfeydd preifat eu hunain. Er ein bod am i bobl fwynhau eu hunain – rydym yn annog pawb i wneud hyn yn ddiogel.”
Byddai GTACGC bob amser yn annog y cyhoedd i ddathlu’r ddwy noson yn y ffordd fwyaf diogel posibl, a thrwy ddilyn y canllawiau syml hyn, gallwch sicrhau bod Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn parhau i fod yn ddathliadau pleserus a diogel i bawb.
Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth am gadw’n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o negeseuon diogelwch.
Facebook – @mawwfire
Instagram – mawwfire_rescue
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |

















