RHAID I DDIDDYMU COMISIYNWYR HEDDLU A THROSEDDU GYD-FYND Â DATGANOLI CYFIAWNDER A PHLISMONA’N LLAWN I GYMRU – PLAID CYMRU.

0
605
Adam Price
Adam Price

Rhaid i ddiddymu comisynwyr heddlua a throsedd gyd-fynd a datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, meddai Plaid Cymru.

Cyhoeddodd llywodraeth Lafur y DU heddiw y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu diddymu yng Nghymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd mae 41 o gomisiynwyr o dan y system, a gyflwynwyd 12 mlynedd yn ôl gan y cyn Brif Weinidog Ceidwadol David Cameron.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros ddiddymu rôl Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ond dywedodd ei llefarydd cyfiawnder yn y Senedd, Adam Price AS, fod yn rhaid i’r penderfyniad heddiw ‘gyd-fynd â datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona’n llawn’.

Dywedodd Mr Price fod Llafur wedi llusgo eu traed ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru ers blynyddoedd, er gwaethaf tri chomisiwn annibynnol i gyd yn cefnogi ‘trosglwyddo pwerau cyfiawnder i Gymru’ yn llawn.

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth Lafur i ofyn am y pwerau hynny’n ffurfiol ac i ‘roi’r gorau i aros am ganiatâd San Steffan i ddarparu cyfiawnder i’n cymunedau’. Ychwanegodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yng Nghymru yn ‘benderfynol’ wrth fynnu’r pwerau i adeiladu system gyfiawnder well i Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder, Adam Price AS,

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros ddiddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, oherwydd ein cred na ddylai plismona fod â chymhelliant gwleidyddol. Felly, rydym yn croesawu penderfyniad heddiw, ond rhaid i hyn ddod law yn llaw â datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona’n llawn.

“Byddai sefydlu system gyfreithiol Gymreig ar wahân a sicrhau bod ein heddluoedd yn atebol i’r Senedd yn gamau hanfodol tuag at Gymru decach a chenedl hyderus, hunanlywodraethol. Eto i gyd, mae Llafur wedi bod yn llusgo eu traed ers blynyddoedd, gan ddangos diffyg llwyr o uchelgais dros Gymru.

“Er gwaetha dros chwarter canrif ers datganoli, Cymru yw’r unig genedl ddatganoledig heb ei system gyfreithiol ei hun a’i phwerau dros ei heddluoedd. Nid oes sail resymegol i hynny.

“Yn y degawd diwethaf, mae tri chomisiwn annibynnol, gan gynnwys yn fwyaf diweddar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, i gyd wedi cefnogi trosglwyddo pwerau cyfiawnder i Gymru yn llawn. Mae eu neges yn glir: dylid symleiddio’r system, a dylai cyfrifoldeb eistedd lle mae atebolrwydd eisoes – yma yng Nghymru, lle mae’r penderfyniadau’n effeithio fwyaf arnom.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur yng Nghymru nawr ofyn am y pwerau hynny’n ffurfiol a rhoi’r gorau i aros am ganiatâd San Steffan i sicrhau cyfiawnder i’n cymunedau. Bydd llywodraeth Plaid Cymru, os caiff ei hethol y flwyddyn nesaf, yn benderfynol o sefyll dros Gymru ac o fynnu’r pwerau sydd eu hangen arnom i adeiladu system gyfiawnder deg ac effeithiol sy’n gwasanaethu ein pobl yn wirioneddol.”

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach, ychwanegodd AS Plaid Cymru, Ann Davies,

“Mae datganiad heddiw yn gwneud yn glir iawn pa mor hurt yw system gyfiawnder Cymru a Lloegr.

“Bydd Llywodraeth y DU yn edrych at Lywodraeth Cymru i helpu i ddisodli system y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru – ond wedi gwrthod yr un pwerau llywodraeth dros blismona.

“A yw’r Ysgrifennydd Gwladol bellach yn cyfaddef mai Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i reoli plismona yng Nghymru – a bod datganoli’r system gyfiawnder gyfan i Gymru yn gwneud y synnwyr mwyaf rhesymegol?


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here