Plaid Cymru yn cyhoeddi eu rhestr o’u hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd

0
469
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 a hynny er gwybodaeth i’r wasg.

Roedd Plaid Cymru eisoes wedi cadarnhau’r rhan fwyaf o’i hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ar y 7fed o Fai y flwyddyn nesaf. Dyma’r blaid gyntaf i gadarnhau’r prif ymgeiswyr ym mhob un o’r 16 etholaethau newydd.

Canmolodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, y tîm ‘rhagorol’ oedd yn barod i ‘sefyll dros Gymru, cyflawni newid go iawn, a chadw Reform allan’.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth,

“Mae gennym yma dîm mor rhagorol o ymgeiswyr Plaid Cymru, rhai sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn eu cymunedau ac yn barod i weithio’n ddiflino i ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth pobl ledled Cymru.

“Mae etholiad nesaf y Senedd yn gyfle hanesyddol. Mae Llafur wedi cefnu ar Gymru, ac mae angen arweinyddiaeth newydd ar frys ar ein cenedl – o ran sut rydym yn cael ein trin o fewn y DU a sut mae ein llywodraeth yma adref yn gweithio dros bobl ein gwlad.

“Mae Plaid Cymru yn cynnig yr arweinyddiaeth newydd honno.

“Dyma ein cyfle i ethol, am y tro cyntaf, llywodraeth a Phrif Weinidog a wnaed yng Nghymru a fydd yn sefyll yn ddiflinio dros Gymru, gan wella ein gwasanaeth iechyd, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw drwy ehangu gofal plant, ac helpu busnesau i dyfu.

“Mae’r etholiad hwn hefyd yn etholiad ar ddyfodol Cymru. Ni ellir anwybyddu bygythiad Reform UK. Mae polau piniwn yn dangos ei bod yn ras ddau geffyl i fod y blaid fwyaf, a dim ond Plaid Cymru all atal Reform rhag llusgo Cymru a gwleidyddiaeth Cymru yn ôl.

“Mae hwn yn dîm sy’n barod i gyflawni newid er gwell i’n gwlad ac amddiffyn buddiannau Cymru. Byddwn yn gweithio’n ddiflino dros bob cymuned ledled y wlad.”

Afan Ogwr Rhondda

  1. Sera Evans
  2. Alun Cox
  3. Elyn Stephens
  4. Danny Grehan
  5. Luned-Mair Barratt
  6. Wendy Allsop

Bangor Conwy Môn

  1. Rhun ap Iorwerth
  2. Mair Rowlands
  3. Elfed Williams
  4. Dyfed Jones
  5. Nia Clwyd Owen
  6. Vivek Thuppil 

Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

  1. Delyth Jewell
  2. Lindsay Whittle
  3. Niamh Salkeld
  4. Catrin Moss
  5. Charlotte Bishop
  6. Steven Skivens

Brycheiniog Tawe Nedd

  1. Sioned Williams
  2. Rebeca Phillips
  3. Andrew Jenkins
  4. Justin Horrell

Caerdydd Ffynnon Taf

  1. Dafydd Trystan
  2. Zaynub Akbar
  3. Nick Carter
  4. Andrea Gibson
  5. Joseff Gnagbo
  6. Morgan Rogers

Caerdydd Penarth

  1. Anna Brychan
  2. Kiera Marshall
  3. Leticia Gonzalez
  4. Neil Roberts
  5. Malcolm Phillips
  6. Matthew Hawkins

Casnewydd Islwyn

  1. Peredur Owen Griffiths
  2. Lyn Ackerman
  3. Rhys Mills
  4. Josh Rawcliffe
  5. Jonathan Clark

Ceredigion Penfro

  1. Elin Jones
  2. Kerry Ferguson
  3. Anna Nicholl
  4. Cris Tomos
  5. Colin Nosworthy
  6. Clive Davies
  7. Owain Jones

Clwyd

  1. Llyr Gruffydd
  2. Becca Martin
  3. Oliver Bradley Hughes
  4. Paul Penlington

Fflint Wrecsam

  1. Carrie Harper
  2. Marc Jones
  3. Kayleigh Unitt
  4. Dean Davies   
  5. Annette Davies 
  6. Andy Gallanders

Gwynedd Maldwyn

  1. Siân Gwenllian
  2. Mabon ap Gwynfor
  3. Beca Brown
  4. Elwyn Vaughan
  5. Elin Hywel
  6. Donna O’Brien

Gwyr Abertawe

  1. Gwyn Williams
  2. Safa Elhassan
  3. John Davies
  4. Rhiannon Barrar
  5. Dafydd Williams
  6. Harri Roberts

Pen-y-bont Bro Morgannwg

  1. Mark Hooper
  2. Sarah Rees
  3. Luke Fletcher
  4. Marianne Cowpe
  5. Ian Johnson
  6.  
  7. Iolo Caudy
  8. Dennis Clarke

Pontypridd Cynon Merthyr

  1. Heledd Fychan
  2. Lis McLean
  3. Sara Crowley
  4. Ian Gwynne
  5. Farrell Perks
  6. Ioan Bellin

Sir Fynwy Torfaen

  1. Matthew Jones
  2. Donna Cushing
  3. David Johnson
  4. Loti Glyn

Sir Gaerfyrddin

  1. Cefin Campbell
  2. Nerys Evans
  3. Adam Price
  4. Mari Arthur
  5. Iwan Griffiths
  6. Abi Thomas
  7. Taylor Reynolds

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here