Yn anffodus, bu farw Henry ym mis Mawrth 2024, ac roedd y teulu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r uned a ofalodd amdano ac a wnaeth gymaint o wahaniaeth yn ystod cyfnod Henry yn yr ysbyty. Dyma’r ail ddigwyddiad codi arian y mae’r teulu wedi’i wneud ar gyfer yr Uned Gofal Dwys.
Drwy gydol 2025, trefnodd Vicki a’i chefnogwyr amrywiaeth o weithgareddau codi arian gan gynnwys cwyr elusennol, raffl, a noson elusennol yn The Bull yn Hwlffordd. Cymerodd ffrindiau ran hefyd yn Hanner Marathon Llanelli a Hanner Marathon Caerdydd.
Dywedodd Kim Goodall, Uwch Brif Nyrs: “Diolch yn fawr iawn i Vicki a phawb a oedd yn rhan o hyn am helpu i godi’r swm anhygoel o £4,000 yn 2025 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys. Mae hwn yn deyrnged wych i Henry. Derbynnir yr arian yn ddiolchgar a bydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’n gwaith ar yr uned. Diolch!”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Vicki, ac i’ch teulu a’ch ffrindiau, am godi swm mor anhygoel ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae hwn yn deyrnged wirioneddol hyfryd i Henry. Gobeithiwn y byddwch yn cael cysur o wybod y bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r cleifion, teuluoedd a staff yr Uned Gofal Dwys.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













