12.9 C
Llanelli
Thursday, May 21, 2026
Home Newyddion Lle Plaid Cymru yn galw am ystyried cefnogaeth i bob aelwyd sy’n wynebu ‘prisiau olew gwresogi ac LPG afresymol’

Plaid Cymru yn galw am ystyried cefnogaeth i bob aelwyd sy’n wynebu ‘prisiau olew gwresogi ac LPG afresymol’

0
405
0 Liz Saville Roberts
0 Liz Saville Roberts

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth y DU yn darparu £53m i helpu aelwydydd bregus sydd wedi cael eu heffeithio gan gynnydd sydyn ym mhris olew gwresogi, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Mae Plaid Cymru yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU bod aelwydydd sy’n ddibynnol ar olew gwresogi yn wynebu costau sy’n cynyddu’n sydyn a’r ffaith nad ydyn nhw’n cael eu gwarchod cystal â’r rhai sydd wedi’u cysylltu â’r grid nwy. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw ymyrraeth ddarparu cefnogaeth go iawn, a hynny’n gyflym – nid tic mewn blwch yn unig.

“Mae teuluoedd ar draws cymunedau gwledig eisoes yn profi costau gwresogi sy’n cynyddu’n sydyn. Er bod cefnogaeth sydd wedi’i thargedu ar gyfer yr aelwydydd tlotaf i’w groesawu, dylid ystyried darparu cymorth i bob aelwyd sy’n wynebu prisiau olew gwresogi ac LPG afresymol os yw’r Llywodraeth o ddifrif ynglyn â chydnabod yr annhegwch hwn.

“Nid yw’r cap ar brisiau ynni a osodwyd gan Ofgem wedi’i brofi ar sail modd, felly bydd aelwydydd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid nwy yn cwestiynu pam eu bod yn cael eu trin yn wahanol. Fel y mae pethau, ni fydd llawer o aelwydydd gwledig yn derbyn unrhyw gymorth oherwydd ble maen nhw’n byw. Bydd hyn yn cael effaith arbennig o wael ar Gymru wrth i ni ddod allan o aeaf llwm.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here