Mae rownd derfynol Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026 a gynhaliwyd ym Mharc y Scarlets ar 10 Mawrth wedi tynnu sylw unwaith eto at greadigrwydd a thalent eithriadol pobl ifanc yng Ngorllewin Cymru – gan greu argraff ar y beirniaid trwy eu harloesedd, eu gwaith tîm, a’u hangerdd dros fwyd a diod.
Wedi’i chyflwyno gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) Cymru mewn partneriaeth â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a Gyrfaoedd Cymru, mae’r gystadleuaeth flynyddol yn cyflwyno disgyblion i’r amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous ar draws diwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru. Cefnogwyd her eleni gan Kepak, Dunbia, Leprino a Castell Howell.
Cafodd y cyfranogwyr y dasg o ddatblygu cynnyrch bwyd neu ddiod iach newydd sbon gan ddefnyddio gymain â phosib o gynnyrch o Gymru. Roedd angen i’w cysyniadau gynnig manteision maethol clir, dangos cynaliadwyedd, a dangos potensial masnachol. Creodd pob tîm elfennau brandio hefyd – enw, logo, slogan a chynhyrchu pecyn prototeip 500g/ml i’w gyflwyno i banel o arbenigwyr yn y diwydiant.
Denodd Gyrfaoedd Blasus 2026, 28 o ymgeiswyr a 168 o fyfyrwyr eleni, gan gyfrannu at gyfanswm o 121 o ymgeiswyr, gyda dros 4,900 o ddisgyblion yn cymryd rhan o ysgolion ledled y wlad ers 2018.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026. Maent wedi dangos creadigrwydd, gwaith tîm ac uchelgais anhygoel wrth ddatblygu cynhyrchion iach a chynaliadwy gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau o Gymru. Mae cystadlaethau fel hyn a gyflwynir gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol gyda chefnogaeth rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, Gyrfaoedd Cymru a’n partneriaid yn y diwydiant – yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc i ddarganfod y cyfleoedd gyrfa cyffrous ar draws sector bwyd a diod ffyniannus Cymru. Rwy’n gobeithio y byddant yn cario’r teimlad hwn gyda nhw wrth iddynt wneud dewisiadau cyffrous am eu gyrfa yn y dyfodol, ac ystyried dod â’u talentau i ddiwydiant bwyd a diod bywiog Cymru.”
Dywedodd Louise Cairns, Prif Swyddog Gweithredol NSAFD/Tasty Careers:
“Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026 wedi bod yn llwyddiant anhygoel. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gan y creadigrwydd, yr angerdd a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan bob tîm. Mae’r safon eleni wedi bod yn eithriadol, ac mae’n fraint gweld cymaint o bobl ifanc yn arddangos y dalent a’r arloesedd a fydd yn llunio dyfodol ein diwydiant.”
Ychwanegodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026. Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu â’r diwydiant bwyd a diod ac yn dangos cymaint o greadigrwydd a brwdfrydedd. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol ar gyfer ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac arddangos y cyfleoedd gyrfa cyffrous sydd gan ein sector i’w cynnig.”
Uchafbwyntiau Rownd Derfynol Gorllewin Cymru yn Ysbrydoli Arloesedd
Arddangosodd rownd derfynol Gorllewin Cymru eleni ystod amrywiol o syniadau wrth i fyfyrwyr gyfuno creadigrwydd â meddwl ymarferol ynghylch iechyd, cynaliadwyedd, brandio ac apêl y farchnad.
Enillydd Gorllewin Cymru 2026:
Enillwyr – Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd (Bean Bites)
Ail – Ysgol Coedcae (Cawl Cymreig)
Gwobr Dewis y Myfyrwyr – Ysgol Bryngwyn (Gwmis Naturiol)
Canmolodd Aled Evans, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes, gyflawniadau’r disgyblion, gan ddweud:
“Mae safon y ceisiadau o Orllewin Cymru eleni wedi bod yn rhagorol. Mae’r creadigrwydd, yr egni a’r meddwl y mae disgyblion yn ei roi i’w cynhyrchion yn dangos potensial anhygoel pobl ifanc ein rhanbarth. Dangosodd y tîm buddugol fewnwelediad ac arloesedd eithriadol.”
Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus wedi bod yn rhedeg ers 2018, gyda rowndiau terfynol rhanbarthol yn cael eu cynnal eleni ar draws Gogledd, De a Gorllewin Cymru, gan ddathlu angerdd pobl ifanc dros arloesi bwyd a’u cyflwyno i’r nifer o gyfleoedd gyrfa o fewn y sector.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















