8.5 C
Llanelli
Friday, March 27, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Mae grant Tesco yn helpu i ddarparu therapi syrffio i bobl ifanc...

Mae grant Tesco yn helpu i ddarparu therapi syrffio i bobl ifanc yn Sir Benfro

0
46
Tesco Stronger Starts Haverfordwest

Mae’n bleser gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gyhoeddi bod grant o £1,500 gan Cychwyn Cryfach Tesco wedi ariannu cwrs therapi syrffio ar gyfer pobl ifanc â heriau iechyd meddwl.

Mae Tonic Surf, prosiect therapi sy’n defnyddio syrffio a’r amgylchedd arfordirol naturiol fel offeryn adfer i blant a phobl ifanc 14-25 oed, wedi defnyddio’r cyllid i gyflwyno rhaglen therapi syrffio 10 wythnos i bobl ifanc ledled Sir Benfro.

Cyflwynwyd y sesiynau therapi syrffio wythnosol ar y cyd gan Ysgol Syrffio Tonic Surf a Walkin’ on Water, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Drwy gydol y rhaglen, cefnogwyd y cyfranogwyr gan hyfforddwyr syrffio cymwys ynghyd â chlinigwyr CAMHS, gan ddarparu amgylchedd diogel a strwythuredig i hyrwyddo lles emosiynol a thwf personol.

Mae Tonic Surf yn defnyddio’r amgylchedd naturiol, syrffio, a gweithgareddau ar y traeth fel arfau therapiwtig i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi heriau iechyd meddwl. Mae’r prosiect wedi chwarae rhan bwysig wrth ddarparu ffyrdd amgen, ystyrlon i bobl ifanc reoli eu hiechyd meddwl a datblygu hyder.

Helpodd y prosiect adeiladu cysylltiadau cymdeithasol rhwng defnyddwyr gwasanaeth, darparu strategaethau ymdopi iach a chefnogi eu hadferiad.

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Cychwyn Cryfach Tesco am gefnogi’r prosiect lleol hwn.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.