21.7 C
Llanelli
Monday, July 20, 2026
Home Local News Ceredigion News SBARC Ceredigion yn dod i ben ar uchafbwynt gyda chanlyniadau cadarn i...

SBARC Ceredigion yn dod i ben ar uchafbwynt gyda chanlyniadau cadarn i fusnesau a phobl leol

0
254
Sbarc TyfuCohort cropped

Mae rhaglen SBARC Ceredigion wedi dod i ben wedi cyfnod llwyddiannus o gefnogi entrepreneuriaid, busnesau bach, a phobl greadigol ledled y sir. 

Dros gyfnod y rhaglen, mae SBARC Ceredigion wedi helpu i danio uchelgais busnes ledled y sir drwy gefnogi 140 o entrepreneuriaid y dyfodol, darparu cymorth busnes uniongyrchol i 36 o fentrau, a sbarduno 41 o fusnesau i fabwysiadu technolegau neu brosesau newydd. 

Roedd effaith y gefnogaeth yn glir ar lawr gwlad. Cyflwynodd 18 o fentrau gynnyrch neu wasanaeth newydd neu well; aeth 14 o fusnesau i farchnadoedd newydd; nododd 12 o fentrau welliannau mewn cynhyrchiant; a sefydlwyd 4 busnes newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth. 

Roedd elfen gref o ymgysylltu cymunedol wrth wraidd y rhaglen hefyd, gyda 7 digwyddiad a gweithgaredd lleol yn cael eu cynnal, gan gynnwys teithiau busnes, gweithdai rhyngweithiol, a sesiynau ysbrydoledig i bobl ifanc. 

Cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid ledled Ceredigion, gan gynnwys Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi, Uned Explorer Aberaeron, Theatr Felin-fach, a Fforwm Ieuenctid CFfI Ceredigion, gan annog pobl ifanc i archwilio syniadau busnes ac ystyried llwybrau entrepreneuraidd a chreadigol. 

Mae SBARC Ceredigion yn fenter entrepreneuriaeth uwch a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Llywodraeth y DU), ac fe’i gweinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Ceredigion. 

Eirwen Williams-2

Wrth sôn am effaith y rhaglen, dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau gyda Mentera: 

“Mae SBARC Ceredigion wedi bod yn enghraifft gref iawn o’r hyn sy’n bosibl pan fydd pobl, syniadau a chefnogaeth ymarferol yn dod at ei gilydd. Rydym wedi gweld creadigrwydd, hyder ac uchelgais yn tyfu ymhlith entrepreneuriaid y dyfodol a busnesau sefydledig fel ei gilydd, gan adael gwaddol cadarn i economi leol Ceredigion.” 

Tomoko Otani-2

Dywedodd Tomoko Otani, un a gymerodd ran yn SBARC Ceredigion: 

“Fe wnaeth cymryd rhan yn rhaglen SBARC helpu i droi fy syniad busnes yn rhywbeth go iawn. Anogodd y gefnogaeth fi i gymryd camau ymarferol, i ddatblygu fy nghynlluniau busnes, ac i archwilio sut gallai fy ngwaith greu effaith gymdeithasol gadarnhaol.” 

Ffeithiau allweddol: 

  • Cefnogwyd 140 o entrepreneuriaid y dyfodol 
  • Cafodd 36 o fusnesau gymorth busnes uniongyrchol 
  • Mabwysiadodd 41 o fentrau dechnolegau neu brosesau newydd 
  • Cyflwynodd 18 o fentrau gynnyrch neu wasanaeth newydd neu well 
  • Aeth 14 busnes i farchnadoedd newydd 
  • Fe wnaeth 12 busnes wella eu cynhyrchiant 
  • Sefydlwyd 4 busnes newydd 
  • Cynhaliwyd 7 digwyddiad a gweithgaredd lleol 
SBARC FfynnuCohort

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.