Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gwaith adnewyddu a seddi newydd gwerth dros £1,500 ar gyfer ystafell y perthnasau yn yr Uned Gofal Dwys(ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae ystafell y perthnasau wedi’i phaentio’n ffres ac mae ganddi seddi newydd i berthnasau cleifion ICU eistedd i lawr ac ymlacio tra i ffwrdd o’r amgylchedd gofal dwys.

Derbyniodd yr ICU rodd hael hefyd gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili a ariannodd y murlun (yn y llun).
Dywedodd Tammy Bowen, Prif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i wneud gwelliannau i’r ystafell berthnasau yn yr ICU.

“Mae’r ystafell berthnasau yn darparu lle preifat, cysurus i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd i ffwrdd o’r amgylchedd clinigol. Mae’n cynnig lle i orffwys, myfyrio, a chefnogi ei gilydd yn ystod yr hyn a all fod yn amser heriol ac emosiynol.
“Mae’r ystafell sydd newydd ei hadnewyddu yn cynnwys murlun ac amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i helpu i ddarparu heddwch a sicrwydd i berthnasau sydd ag anwyliaid sy’n cael eu derbyn i Gofal Critigol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhrair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















