14 C
Llanelli
Tuesday, April 21, 2026
Home Newyddion Lle ‘Bydd anhrefn Starmer yn helpu i ddod â chanrif o reolaeth Llafur...

‘Bydd anhrefn Starmer yn helpu i ddod â chanrif o reolaeth Llafur yng Nghymru i ben’ – Plaid Cymru

0
55
0 Liz Saville Roberts
0 Liz Saville Roberts

Liz Saville Roberts yn herio’r Prif Weinidog ar ei record o apwyntiadau yng nghanol saga Mandelson

Heddiw (dydd Llun 20 Ebrill) fe wnaeth y Prif Weinidog roi datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar benodiad Peter Mandelson yn Llysgennad i’r Unol Daleithiau, er gwaethaf y ffaith iddo gael ei wrthod gan drefn Fetio Diogelwch y Deyrnas Unedig (UKSV). 

Mae’r llywodraeth wedi dweud nad oedd Syr Keir Starmer, nac unrhyw weinidog arall, yn gwybod bod yr Arglwydd Mandelson wedi methu ei fetio diogelwch tan yn gynharach yr wythnos hon. 

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud bod gan y Prif Weinidog “hanes o benodi ffrindiau agosaf Llafur i swyddi uchaf y llywodraeth ac i Dŷ’r Arglwyddi,” gan ddefnyddio cefnogaeth y Prif Weinidog i Vaughan Gething fel enghraifft o hyn gan Lafur yng Nghymru.

Gofynnodd Ms Saville Roberts sut byddai’r Prif Weinidog yn esbonio i’w blaid y rôl mae ef wedi’i chwarae wrth ddod â chanrif o reolaeth Llafur yng Nghymru i ben yn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Mae disgwyl i Lafur golli rheolaeth ar Lywodraeth Cymru, ac i Plaid Cymru neu Reform gymryd eu lle.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r Prif Weinidog yn cuddio y tu ôl i iaith gyfreithiol technegol a gweithdrefnau, ond mae ganddo hanes o benodi ffrindiau agosaf Llafur i swyddi uchel yn y llywodraeth ac i Dŷ’r Arglwyddi. 

“Yng Nghymru, rydym yn gwybod popeth am ddiwylliantcrony Llafur. Pwy all anghofio Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru a dderbyniodd cymaint o gefnogaeth gan Lafur y DU a Rhif 10, er gwaethaf ei roddion amheus, ac sydd bellach yn debygol o ddod yn Arglwydd?

“Yr amseru! Sut mae ef am esbonio i’w blaid y rôl mae wedi’i chwarae wrth ddod â chanrif o reolaeth Llafur i ben yn yr etholiadau sydd ar ddod?”

Ni wnaeth y Prif Weinidog gydnabod cwestiwn Ms Saville Roberts a dywedodd ei fod heddiw yn trafod y broses o benodi Peter Mandelson lle’r oedd eisoes wedi ateb nifer o gwestiynau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here