“Un blaid all drechu Reform”: Neges Plaid Cymru wrth i Sir Gaerfyrddin bleidleisio
Mae Plaid Cymru wedi datgan mai dim ond nhw all ennill mwy o bleidleisiau a seddi na Reform yn Sir Gaerfyrddin yn etholiad y Senedd yr wythnos hon (dydd Iau, 7 Mai), gan annog pawb sydd eisiau rhwystro plaid Nigel Farage rhag cipio’r sir i fenthyg eu pleidlais iddynt.
Mae arolwg barn MRP diweddaraf Yougov, ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, ryddhawyd ddoe (dydd Mawrth, 5 Mai), yn rhagweld y bydd Plaid Cymru ennill 33% o’r bleidlais trwy Gymru, gyda Reform yn cipio 29%. Mae disgwyl i gefnogaeth i Lafur, y Gwyrddion, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr fod llawer gwannach.
Mae disgwyl cystadleuaeth agos rhwng y ddwy blaid yn Sir Gaerfyrddin, sedd sydd wedi’i chreu o etholaethau Caerfyrddin a Llanelli San Steffan.
Mae Nerys Evans, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholaeth, wedi dweud bod ei phlaid yn cynnig “gweledigaeth bositif”, sy’n gwrthgyferbynnu gyda’r hyn y mae Reform yn ei gynnig.
Ymhlith brif bolisïau Plaid Cymru mae cynnig gofal plant o 20 awr yr wythnos i bob un teulu, bo nhw mewn gwaith, hyfforddiant, neu addysg neu ddim; strategaeth i dyfu’r economi a chreu swyddi trwy’r Asiantaeth Datblygu Genedlaethol; a chynllun rhifedd a llythrennedd newydd i sicrhau fod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Dywedodd Nerys Evans:
“Wrth i bleidleiswyr Sir Gâr fynd i’r gorsafoedd pleidleisio ddydd Iau, ni all y dewis fod yn fwy clir.
“Dim ond dwy blaid all ennill yma: Plaid Cymru, sy’n cynnig arweinyddiaeth o’r newydd, gweledigaeth bositif, ac a fydd yn atebol i bobl Cymru yn unig; neu Reform, fyddai’n rhannu ein cymunedau, bygwth dyfodol ein gwasanaeth iechyd, torri cefnogaeth i’n diwylliant a’n iaith ac sy’n cael ei rheoli gan Nigel Farage, biliwnyddion, a chyn-Dorïaid yn Llundain.
“Mae cefnogaeth i Lafur wedi diflannu yn Sir Gaerfyrddin, gyda phobl yn anfodlon pleidleisio dros blaid sydd gadael Cymru i lawr dros 27 mlynedd ac yn San Steffan ers i Keir Starmer ddod yn Brif Weinidog. Yn ogystal, does dim tystiolaeth bydd y Gwyrddion na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau digon o bleidleisiau i ddod yn agos at ennill sedd.
“Gofynnwn i unrhyw un sydd eisiau rhwystro buddugoliaeth i Reform yn Sir Gaerfyrddin i fenthyg eu pleidlais i Blaid Cymru ddydd Iau.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















