| Bydd Llyn Llys-y-frân yn Sir Benfro yn agor ei Barc Dŵr newydd sbon ar 18 Gorffennaf. |
Yn erbyn cefndir prydferth y llyn a’r cefn gwlad cyfagos, mae’r Parc Dŵr yn addo profiad egnïol llawn hwyl gyda sesiynau 45-munud am £18.50 y pen o deuluoedd, grwpiau, ac unrhyw un sy’n chwilio am gyffro. Ar agor trwy gydol gwyliau haf yr ysgolion, dyma’r lle perffaith i ddod i oeri, mwynhau a manteisio i’r eithaf ar yr haf. Bydd y Parc Dŵr yn agor dan drefn newydd ar gyfer tymor 2026, yn sgil archwiliadau ansawdd a diogelwch terfynol. Bydd hyn yn sicrhau bod y profiad yn bodloni safonau Dŵr Cymru Welsh Water wrth i’r cynlluniau tymor hwy gael eu hadolygu. Bydd y llithren wyllt, yr her dringo, yr ardaloedd cydbwyso a bownsio, yr i-hop neidio, y twnnel gwibio a’r sgrialfa oll yn cynnig profiad cyffrous i ymwelwyr. Mae’r Parc Dŵr newydd wedi ei leoli yng nghefndir prydferth parc gwledig Llys-y-frân, lle gall ymwelwyr fwynhau llogi beics, trac sgiliau beicio sydd ar gael i’w ddefnyddio am ddim, maes chwarae antur, a milltiroedd o lwybrau cerdded a beicio prydferth o amgylch y llyn a’r cefn gwlad cyfagos hefyd. Gall ymwelwyr ymlacio ac ymadfer yn y caffi ar y safle sy’n cynnig dewis da o fwyd a diod â golygfeydd dros y llyn. Dyma’r lle perffaith i ymlacio cyn neu ar ôl hwyl y Parc Dŵr. I’r rhai sydd am ymestyn eu harhosiad, mae Llys-y-frân yn cynnig maes gwersylla hwylus sydd wedi ennill statws pedair seren Croeso Cymru, sy’n caniatáu i ymwelwyr ymgolli’n llwyr yn y dirwedd a mwynhau popeth sydd gan y safle i’w gynnig. Am ragor o fanylion ewch i: https://llys-y-fran.co.uk/cy/gwersylla/ Disgwylir galw mawr, felly rhaid bwcio sesiynau’r Parc Dŵr ymlaen llaw. Croesewir archebion grŵp, a gellir gwneud hyn trwy e-bostio llysyfran@dwrcymru.com neu ffonio 01437 532273 (9am-5pm pob dydd). I gael rhagor o fanylion am amserau’r sesiynau ac i gadw lle, ewch i: https://llys-y-fran.co.uk/cy/parc-dwr-llys-y-fran/ |
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













