
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi diolch i’r gymuned leol ar ôl i apêl codi arian gasglu ychydig dros £2,000. Cafodd ei lansio ar ôl i gadair olwyn gael ei fandaleiddio ar y traeth yn Llanusyllt.
Lansiwyd yr apêl ar ôl i gadair olwyn arbenigol ar gyfer y traeth gael ei difrodi ym mis Mai, cafodd dau deiar a braich eu dwyn o’r offer, gan achosi difrod gwerth tua £600. O ganlyniad i’r digwyddiad, cafwyd lawer iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd, gyda channoedd o negeseuon o anogaeth a rhoddion gan unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol.
Er na chyrhaeddodd yr apêl ei tharged o £15,000, dywed yr elusen fod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac y bydd yn cael effaith barhaol ar y Cynllun Symudedd Awyr Agored.
Mae’r arian a godwyd wedi galluogi’r gadair olwyn sydd wedi’i difrodi i gael ei thrwsio a’i dychwelyd i’w ddefnyddio, gan sicrhau ei bod yn dal ar gael i bobl sydd â heriau symudedd fel y gallant fwynhau traethau Sir Benfro. Mae’r elusen hefyd yn ystyried dyluniadau ar gyfer cysgodfannau diogel y gellir eu cloi er mwyn diogelu’r offer yn well yn y dyfodol.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi’r achos. Mae’r haelioni a ddangosodd y gymuned yn dilyn digwyddiad mor siomedig wedi bod yn wirioneddol galonogol. Diolch i gefnogaeth pawb, rydyn ni wedi gallu trwsio’r gadair olwyn ac rydyn ni nawr yn edrych ar ffyrdd o wella diogelwch yr offer ymhellach, gan helpu i ddiogelu’r cynllun am flynyddoedd i ddod.“
Diolchodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i Gangen Unison Sir Benfro, a roddodd £100 i godi cyfanswm yr apêl i ychydig dros £2,000.
Dywedodd Angela Robinson, Arweinydd Tîm Iechyd a Llesiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Bob dydd, rydyn ni’n gweld y gwahaniaeth mae’r cadeiriau olwyn arbenigol yn ei wneud, boed hynny drwy alluogi rhywun i ymweld â’r traeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd neu helpu teuluoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd ger y môr. Bydd y gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael yn ein helpu i barhau i roi’r cyfleoedd hynny i gannoedd o bobl bob blwyddyn, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb.”
Mae’r Cynllun Symudedd Awyr Agored yn darparu cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd ar gyfer pob tir, a hynny ledled Sir Benfro. Yn 2025, cafodd yr offer ei ddefnyddio dros 900 o weithiau, gan helpu pobl anabl, oedolion hŷn, teuluoedd ac ymwelwyr i fwynhau arfordir trawiadol y sir.
Er bod yr apêl benodol hon i godi arian yn cau erbyn hyn, parhau y mae’r angen i gefnogi a datblygu’r cynllun.
Gall unigolion barhau i gefnogi’r Cynllun Symudedd Awyr Agored drwy roddion, gan helpu i ariannu offer newydd, cynnal a chadw’r offer, a pharhau i ddarparu’r’ gwasanaeth. Gallwch gyfrannu drwy dudalen rhoi’r Gadair Olwyn Traeth yma www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau/rhoddion
Gall busnesau a sefydliadau hefyd chwarae rhan hollbwysig drwy ymuno â’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored. Drwy’r rhaglen, mae sefydliadau’n dod yn Gysylltwyr, yn Gefnogwyr neu’n Hyrwyddwyr, sy’n helpu i wneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch a chynhwysol ar yr un pryd â dangos eu hymrwymiad i’w cymuned, eu hygyrchedd a’u llesiant.
Am ragor o wybodaeth am ddod yn bartner, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/cefnogwch/get-outdoors.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |








