9.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Local News Rhowch drefn ar eich pethau yn ystod Mis Ewyllysiau am Ddim gyda...

Rhowch drefn ar eich pethau yn ystod Mis Ewyllysiau am Ddim gyda chynnig arbennig gan Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro

0
445
FamilyFreshEastweb
FamilyFreshEastweb

Oherwydd cyfyngiadau covid-19, mae’n bosibl nad yw’n syndod clywed bod cynnydd o 267% wedi bod yn nifer y bobl wnaeth ysgrifennu eu hewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn yn 2020, ond wyddech chi y gallech chi wneud eich ewyllys am ddim diolch i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi mynd i bartneriaeth ag ysgrifenwyr ewyllysiau mwyaf y Deyrnas Unedig Farewill i gynnig ichi gyfle i ysgrifennu ewyllys cyfreithiol rwymol ar-lein mewn cyn lleied â 15 munud. Gan mai Mawrth yw Mis Ewyllysiau am Ddim, nawr yw’r amser perffaith i rhoi trefn ar eich pethau.

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Elsa Davies LVO: “Rydyn ni’n gobeithio y gwnewch ystyried rhoi rhodd ar ôl ichi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, ond nid oes raid ichi gynnwys rhodd yn eich ewyllys i’r Ymddiriedolaeth i fanteisio ar y cynnig.

“Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn ein helpu i barhau i gefnogi prosiectau ym maes cadwraeth, addysg, diwylliant a’n harfordir ar draws y Parc Cenedlaethol. Drwy gymryd y camau bychain hyn yn awr, gallwch helpu i gael effaith fawr a helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol am flynyddoedd lawer.”

Mae adroddiad tueddiadau Farewill yn 2020 wedi dangos bod dros £150 miliwn wedi cael ei addo i elusennau yn 2020 gydag oddeutu 1 o bob 5 ewyllys yn cynnwys rhodd i elusen; mae hwn yn gynnydd o 28% ar 2019. 

I ysgrifennu eich ewyllys ar-lein am ddim ewch i: https://farewill.com/pembscoast5

I ddysgu rhagor am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r gwaith y mae’n ei gefnogi ewch i: www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.