15.3 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Gohirio Gwasanaeth Babanod Annwyl a Cholled Blynyddol

Gohirio Gwasanaeth Babanod Annwyl a Cholled Blynyddol

0
753
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board

Ar ôl ystyried a chyda’r cyfyngiadau cloi parhaus a llacio cyfyngiadau yn annhebygol i newid yn sylweddol bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad truenus na fyddwn yn gallu cynnal y ‘Gwasanaeth blynyddol  ‘Y Babanod a Carwyd a Cholliwyd’  ar ddydd Sadwrn 3ydd Ebrill 2021, yn y Capel / Ystafell Tawel, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Gwneir y penderfyniad hwn rhwng cydweithwyr o’r uned Caplaniaeth a Bydwreigiaeth a Neo-Natal a Gynaecoleg. Rydym yn ymwybodol mai hwn yw’r ail wasanaeth blynyddol sy’n dioddef y pandemig, ac rydym yn mawr sylweddoli’r effaith a’r siom y bydd hyn yn ei gael ar rieni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd teulu eraill  a staff. Rydym am eich sicrhau ei bod yn meddwl amdanoch ac yn estyn ein dymuniadau a chofion annwyl.

Bydd yr Adran Gofal Ysbrydol yn cynnau cannwyll ar gyfer ein babanod arbennig ac ar gyfer teuluoedd ar y diwrnod ac mi fydd neges yn cael ei gyflwyno ar y Goeden Goffa. Bydd y neges yn cynnwys yfeiriad  hysbysiad hwn yn cynnwys cyfeiriad at staff gofal iechyd yn y Gwasanaethau Menywod a Phlant sydd wedi addasu darpariaethau yn radical i gynnig y gofal gorau i gefnogi teuluoedd yn ystod Covid 19.

Mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i ddod â ni at ein gilydd i gofio, i gynnig heddwch ac i gofio gyda chariad ac i edrych ymlaen gyda gobaith. Er ein bod yn sylweddoli bod y penderfyniad hyn yn siomedig, byddwn yn adolygu ac yn ystyried a fydd hi yn ddiogel ac yn ymarferol ac o fewn canllawiau’r Llywodraeth i gael y gwasanaeth yn gynnar yn yr hydref. Os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn cynnal Gwasanaeth Rhithwir ar lein arall yn Hydref 2021.

Os yw’r wybodaeth hon yn effeithio arnoch a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag Euryl o’r Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth) euryl.howells2@wales.nhs.uk neu 01267 227563

Efallai yr hoffech gynnig neges i’w rhoi ar y Goeden Goffa, anfonwch ymlaen i’r cyfeiriad e-bost hwn  loved.forever.hdd@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here