9.7 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Cyfle i ddweud eich dweud am weledigaeth newydd ar gyfer y Parc...

Cyfle i ddweud eich dweud am weledigaeth newydd ar gyfer y Parc Cenedlaethol

0
455
44 Deer Park 02 1
44 Deer Park 02 1

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eich gwahodd i rannu eich barn ar ba fath o Barc Cenedlaethol rydych chi’n dymuno ei weld yn y dyfodol.

Fel llawer o sefydliadau eraill, mae’r Awdurdod wedi cael blwyddyn heriol yn delio ag effaith pandemig y Coronafeirws ac yn ymateb iddo. Mae nawr yn edrych tua’r dyfodol ac yn galw ar bobl leol, busnesau ac ymwelwyr i roi adborth ar eu blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod a’u gweledigaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol.

Mae Arfordir Penfro yn gwneud cyfraniad hollbwysig at gefnogi diwydiant twristiaeth y sir, ac fe gafodd ei ddewis fel yr hoff Barc Cenedlaethol ond un yn y DU mewn arolwg Which? diweddar.

Rôl yr Awdurdod yw gofalu am dirwedd, treftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt y Parc, helpu pawb i gael mynediad ato a’i fwynhau, ac i gefnogi’r bobl a’r busnesau sy’n ei alw’n gartref.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn adeiladu’n ôl yn well wrth i ni symud ymlaen o’r pandemig, gan gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn barod i ddelio â heriau ariannol a thechnolegol yn y dyfodol.

“O ganlyniad, rydyn ni’n adolygu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol ac yn awyddus i ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl o amrywiaeth o gefndiroedd i ddarganfod beth yw barn pobl ynglŷn â’r agweddau pwysicaf ar waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.”

I lenwi arolwg byr a dweud eich dweud am Weledigaeth Newydd y Parc Cenedlaethol ewch i www.arfordirpenfro.cymru/dweud-eich-dweud.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2021.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.