Mae deg prosiect lleol sydd ag effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi elwa o’r rownd gyntaf o gyllid gan gynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur.
Lansiwyd y cynllun yn gynharach eleni, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i gefnogi prosiectau lleol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn cyflawni ar gadwraeth neu newid yn yr hinsawdd, neu’n darparu addysg ar unrhyw un o’r uchod.
Dyfarnwyd grant bach o £500 neu lai i 10 prosiect cymunedol, er bod y cynllun mor boblogaidd fel ei bod ond yn bosibl dyrannu cyllid i draean o’r prosiectau oedd wedi ymgeisio.
Daeth un o’r ceisiadau llwyddiannus gan Gyngor Cymuned Amroth, sy’n cwmpasu pentrefi Amroth, Summerhill, Wisemans Bridge, Pleasant Valley a Llan-teg. Yn awyddus i gynyddu bioamrywiaeth a chefnogi pryfed peillio yn yr ardal, byddant yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu dôl gymunedol o flodau gwyllt.
Daeth cais llwyddiannus arall gan Support the Boardwalk, grŵp cymunedol wedi’i leoli yn Aberllydan. Mae llwybr pren Slash Pond yn cynnig dros 275 metr o lwybr pren hygyrch gwrthlithro, o amgylch pwll hudolus sy’n cefnogi bioamrywiaeth a hamdden ac addysg. Bydd y grant bach yn cael ei ddefnyddio i glirio’r tyfiant cyrs o amgylch ymylon y pwll a’r llwybr pren ac i dorri’n ôl y tyfiant helyg o flaen y llwyfan gwylio.
Hefyd dyfarnwyd grant bach i Ysgol Maenclochog i addasu ardaloedd o amgylch tir yr ysgol a chyfleuster chwaraeon cyhoeddus i ddenu a chynnal bywyd gwyllt a hyrwyddo lles meddyliol drwy well cysylltiadau â natur. Ymhlith y cynefinoedd bioamrywiaeth mae ardal fach o weirglodd, citiau blychau adar, offer arolygu a byrddau gwybodaeth dwyieithog ar gyfer y safleoedd.
Dywedodd Gwyneth Hayward, Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o ddiddordeb yn y cynllun a’r amrywiaeth eang o brosiectau ag effaith amgylcheddol gadarnhaol sy’n cael eu cynnal yn yr ardal leol. Yn anffodus, roedd y diddordeb yn y gronfa yn fwy na swm y grant oedd gennym i gefnogi prosiectau, a dim ond i draean o’r rhai a wnaeth gais yr oeddem wedi gallu dyfarnu grant iddynt.
Mae’r cyllid ar gyfer y grant wedi dod o’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gyda chymorth gan Gyllid Llywodraeth Cymru (adferiad gwyrdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri) yn ogystal â’r arian a godir gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
I ddarganfod mwy am y cynllun Gweithredu dros Natur, cofrestrwch i dderbyn newyddion Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ymweld â www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/dechrau-sgwrs-gyda-ni/.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif yr elusen gofrestredig yw 1179281.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















