16.7 C
Llanelli
Wednesday, September 23, 2026
Home Welsh Government Gwahodd pobl ifanc dan 18 oed i gael eu brechiad Covid-19 cyntaf

Gwahodd pobl ifanc dan 18 oed i gael eu brechiad Covid-19 cyntaf

0
412
mhorwood Covid 19 Oxford Astrazeneca Vaccine 040121 18 1 scaled
mhorwood Covid 19 Oxford Astrazeneca Vaccine 040121 18 1 scaled

Welsh Government

Mae pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin troi’n 18 oed yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad Covid-19 cyntaf.

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd pobl ifanc sy’n 17 mlwydd a 9 mis oed neu’n hŷn naill ai’n cael eu gwahodd i apwyntiad sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw neu gallan nhw fynd i glinig brechu galw heibio os oes un ar gael yn eu bwrdd iechyd lleol.

Y gobaith yw y bydd cyfran uchel o’r bobl ifanc yn y grŵp hwn yn manteisio ar y cynnig. Bydd llawer ohonynt yn dechrau gweithio neu’n mynd i’r brifysgol yn yr hydref.

Mae bron 80% o oedolion Cymru wedi cael eu brechu’n llawn – y cyfraddau gorau yn y DU a rhai o’r goreuon yn y byd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, Gill Richardson:

“Dyma gam nesaf ein rhaglen frechu lwyddiannus a’r cam cyntaf tuag at ddarparu brechlynnau i blant a phobl ifanc. Byddwn yn gweithredu’n gyflym i frechu plant a phobl ifanc 12-17 oed sydd yn y categorïau a gafodd eu nodi yng nghanllawiau diweddar y Cyd-bwyllgor ar frechu plant.

“Mae ein rhaglen frechu’n parhau i wneud cynnydd rhagorol, ac mae dros 2 filiwn o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu’n llawn. Rydym yn hynod o ddiolchgar am waith holl staff y GIG, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog sy’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”

Y bwriad wrth ddechrau’r broses cyn bod y bobl ifanc yn 18 oed yw sicrhau bod cynifer â phosibl ohonynt yn manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn wrth iddynt deithio ymhellach a dod yn fwy annibynnol. Bydd llawer yn dechrau gweithio neu’n dechrau yn y brifysgol yn nhymor yr hydref.

Mae’r Cyd-bwyllgor hefyd wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i blant a phobl ifanc 12 oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd penodol sydd eisoes yn bodoli ac sy’n peri risg o COVID-19 difrifol iddyn nhw. Mae’r byrddau iechyd wrthi’n nodi’r plant sydd wedi’u cynnwys yng nghyngor y Cyd-bwyllgor er mwyn eu gwahodd i gael eu brechu.

Bydd plant a phobl ifanc 12-17 oed sy’n byw gyda rhywun – naill ai oedolyn neu blentyn – sydd â system imiwnedd wan hefyd yn cael cynnig brechlyn i helpu i ddiogelu’r rhai y maen nhw’n byw gyda nhw. Byddant yn cael cynnig y brechlyn Pfizer-BioNTech yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rydym yn croesawu cyngor y Cyd-bwyllgor ac yn cytuno â’r argymhellion. Ein tasg nawr yw gweithredu’r cam nesaf hwn o’r rhaglen frechu mor gyflym ac effeithlon â phosib. 

“Mae rhaglen frechu Cymru gyda’r gorau yn y byd ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan ohoni am eu cyfraniad i’w gwneud hi’n rhaglen mor llwyddiannus.

“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu, er mwyn helpu i’w diogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddyn nhw.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.