8.6 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Newyddion Lle Cyllid sylweddol ar gael wrth i gynlluniau amaethyddol allweddol gael eu hestyn

Cyllid sylweddol ar gael wrth i gynlluniau amaethyddol allweddol gael eu hestyn

0
312
RuralAffairsMinisterLesleyGriffiths scaled
RuralAffairsMinisterLesleyGriffiths scaled

Welsh Government News

Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu bod mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru, sy’n rhan allweddol o fanteisio i’r eithaf ar rym amddiffynnol natur drwy ffermio.

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hestyn tan fis Rhagfyr 2023.

Mae’r Gweinidog hefyd yn dweud mai’r bwriad yw parhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023, yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o wariant.

Mae dros 1.3 miliwn hectar o dir amaethyddol Cymru o dan gontract Glastir ac mae parhau â’r cynllun yn sicrhau bod safleoedd ac ardaloedd â blaenoriaeth yng Nghymru yn cael eu rheoli’n effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Mae hyn yn cynnwys gwarchod a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella’n hadnoddau pridd a dŵr, adfer cynefinoedd mawnogydd a chyfrannu at ddatgarboneiddio amaethyddiaeth Cymru.

Bydd pob un cymwys sydd â chontract ar hyn o bryd yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrifon ar RPW ar-lein.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod £7 miliwn arall ar gael i estyn y rhaglen Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023.
Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cymorth busnes pwysig i filoedd o ffermwyr a choedwigwyr ledled Cymru.

Mae’r cymorth hwnnw wedi cynnwys nodi meysydd lle gallent wella, datblygu sgiliau a helpu i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o weithio.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Dw i’n falch iawn o fedru sicrhau bod £66.79 miliwn ar gael drwy gontractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig tan fis Rhagfyr 2023.

“Mae’r rhaglen yn hanfodol er mwyn cefnogi’n ffermwyr a bydd yr estyniad hwn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol.

“Dw i hefyd yn falch y bydd £7 miliwn arall ar gael i gynnal Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023.

“Bydd hyn yn helpu i greu sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a chadarn, wrth inni fynd i’r afael â sawl her a chyfle, gan gynnwys lleihau allyriadau’r holl nwyon tŷ gwydr i sero-net erbyn 2050, ac ymdopi ag amgylchedd masnachu sy’n newid drwy’r amser i’r diwydiant.

“Ar ôl ymweld â ffermydd ym mhob cwr o Gymru, dw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae Cyswllt Ffermio yn ei chael ar fywoliaeth ein ffermwyr, a dw i’n edrych ‘mlaen at weld mwy o fudd iddyn nhw, diolch i’r cyhoeddiad hwn heddiw.

“Mae newid sylweddol a phwysig ar y gorwel a fydd yn rhoi dyfodol sefydlog a chynaliadwy i’r diwydiant ac i gymunedau gwledig Cymru. Yn y cyfamser, bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau tan 2023, yn amodol ar gyllid oddi wrth Lywodraeth y DU, er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr wrth inni weithio gyda’n gilydd i groesi’r bont at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.