6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Welsh Government Cydnabod cyflogeion GIG Cymru yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines

Cydnabod cyflogeion GIG Cymru yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines

0
508
WAG e1613740672868
WAG e1613740672868
Welsh Government

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi llongyfarch gweithwyr GIG Cymru sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae wyth unigolyn o bob rhan o GIG Cymru wedi derbyn anrhydedd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cael ei urddo’n Farchog hefyd am ei rôl ym mhandemig COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Llongyfarchiadau enfawr i bawb yn GIG Cymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines. Mae’n dda gweld pobl yn cael eu cydnabod ar draws sawl maes ledled Cymru a’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i frwydro yn erbyn pandemig COVID-19 a darparu gofal hanfodol. Rydw i eisiau diolch i bob unigolyn sy’n gweithio yn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol am eu gofal, eu hymrwymiad a’u hymroddiad parhaus.

Rydw i hefyd eisiau talu teyrnged i Dr Frank Atherton sy’n parhau i chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r pandemig parhaus ac rydw i’n falch o weld ei waith yn cael ei gydnabod.”

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget:

Bob dydd rydw i’n gweld pa mor galed mae staff yn gweithio yn y GIG ac rydw i wrth fy modd bod rhai o’r unigolion ymroddedig hynny wedi derbyn Anrhydedd Blwyddyn Newydd gan y Frenhines. Rydw i’n gwybod y bydd pawb yn y GIG a ledled Cymru yn ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau at y rhai sydd wedi cael eu cydnabod eleni.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.