11 C
Llanelli
Monday, May 18, 2026
Home Charity Elusennau Iechyd Hywel Dda yn prynu dodrefn newydd ar gyfer meddygon iau...

Elusennau Iechyd Hywel Dda yn prynu dodrefn newydd ar gyfer meddygon iau yn Ysbyty Glangwili

0
278
Furniture for junior doctors Glangwili picture scaled
Furniture for junior doctors Glangwili picture scaled

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu rhai dodrefn newydd ar gyfer meddygon iau sy’n byw ar safle Ysbyty Glangwili.

Mae teledu, bwrdd pŵl a byrddau patio a chadeiriau wedi’u darparu ar gyfer yr ardaloedd cymunedol yn y fflatiau ar gyfer meddygon ar y Rhaglen Sylfaen.

Dywedodd Rhiannon Taylor, Cydlynydd y Rhaglen Sylfaen yn y Ganolfan Addysg Feddygol: “Mae’r meddygon wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig a bydd yr eitemau hyn yn eu helpu i ymlacio pan nad ydynt ar ddyletswydd a hybu eu hiechyd a’u lles.

“Bydd y bwrdd pŵl a’r teledu yn eu helpu i ymlacio, a bydd y byrddau bistro a’r cadeiriau ar gyfer yr ardal patio fach y tu allan yn galluogi’r meddygon iau i eistedd y tu allan a chael rhywfaint o awyr iach.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here