16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Plaid Cymru yn beirniadu penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â dileu’r cymhwyster...

Plaid Cymru yn beirniadu penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â dileu’r cymhwyster Cymraeg ail iaith

0
542
heledd fychan v2
heledd fychan v2

Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl Ifanc, ynghyd a’r Gymraeg:

“Mae’r penderfyniad yma yn groes i alwadau ymgyrchwyr a’r dystiolaeth glir ers blynyddoedd lawr bod y system bresennol ddim yn caniatau mynediad cydradd i bawb i’r Gymraeg. Mae’n codi cwestiynau mawr am rôl a diben Cymwysterau Cymru fel corff. Y perygl mawr yw mai yr hyn sy’n digwydd yw ail-frandio Cymraeg ail iaith, yn hytrach na’r cam mawr ymlaen sydd wir ei angen er mwyn cyrraedd targedau uchelgeisiol y Llywodraeth o greu miliwn, a mwy, o siaradwyr yr iaith. Mae bodolaeth y cymhwyster ail iaith a chreu un continwwm Iaith yn creu peryglon ynddo ei hun o ran diffyg dilyniant rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, yn enwedig mewn nifer o siroedd yng ngorllewin y wlad.

“Rydym yn awyddus i gydweithio ar draws y pleidiau er budd pobl Cymru a’u cymunedau, ond mae penderfyniad fel hyn gan gorff anetholedig yn tanseilio’r ymdrechion hynny. Er bod y penderfyniadau gan Gymwysterau Cymru yn deillio o broses a gychwynwyd cyn y Cytundeb Cydweithio, mae’n amlwg bydd rhaid newid y trywydd os oes modd i ni ddod i gytundeb trawsbleidiol ar gynnwys Bil Addysg Gymraeg.”  


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.