13.8 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Newyddion Lle PLAID YN GALW AM GANSLO DYLEDION CINIO YSGOL

PLAID YN GALW AM GANSLO DYLEDION CINIO YSGOL

0
486
o3TlEKMW
o3TlEKMW

Mae Plaid Cymru wedi galw i drechu tlodi o fewn cost diwrnod ysgol

Mae Plaid Cymru wedi galw am gymryd camau brys i sicrhau nad yw dyledion prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion yng Nghymru.

Mae’r alwad yn cynnwys canslo dyledion cinio ysgol, gan y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ar draws ysgolion cynradd o fis Medi ymlaen – rhywbeth a sicrhawyd gan Blaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Dywed Sioned Williams AS, llefarydd y blaid ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, nad yw’r gost sy’n gysylltiedig â sawl agwedd o’r diwrnod ysgol – fel gwisg ysgol, tripiau a bwyd – bob amser yn gynhwysol i blant o gefndiroedd difreintiedig. Ychwanega Ms Williams mai dim ond costau byw sy’n gwaethygu hyn.

Mae cefnogi plant a phobl ifanc yn rhan o gynllun pum pwynt Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.

Dywed Ms Williams “nad yw’n ddigon bellach i fod yn wrthdlodi“, ond bod yn rhaid i bolisïau gael eu “prawfesur tlodi” fel nad yw cost y diwrnod ysgol yn achosi i unrhyw blentyn gael ei wahardd neu wynebu stigma – gwaith sydd wedi cael ei archwilio gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant.

Bydd y mater yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 16 Mawrth) fel rhan o alwad ehangach ar Lywodraeth Cymru i gynyddu eu hymdrechion i gefnogi plant, sy’n cynnwys:

·       Adolygu polisïau ar wisg ysgol;

·       Sicrhau nad yw dyledion cinio ysgol yn effeithio’n negyddol ar ddisgyblion;

·       Darparu cymorth pellach i ysgolion i sicrhau bod tripiau a gweithgareddau yn gynhwysol.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS,

Nid mater o feddwl am atebion gwrthdlodi yn unig yw hyn, mae angen i ni sicrhau bod polisïau a phrosesau’n cael eu “prawfesur tlodi”.

Mae cost y diwrnod ysgol yn un enghraifft o’r fath y mae angen ei hadolygu ar frys. Ar ôl cytuno i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried yr effaith y gallai’r ddyled o ginio ysgol ei chael ar blant.

Ni ddylent ychwaith roi’r gorau i adolygu polisïau cinio ysgol – rhaid iddynt hefyd gynyddu eu hymdrechion i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig drwy adolygu polisïau gwisg ysgol, gwella’r broses o gyfeirio’r Grant Datblygu Disgyblion, a sicrhau arferion cyson o ran cynwysoldeb gweithgareddau a theithiau a gynigir i blant.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.