24.9 C
Llanelli
Monday, May 25, 2026
Home Newyddion Lle Arweinydd Plaid Cymru i gyfarfod â phartneriaid Ewropeaidd i gryfhau’r berthynas rhwng...

Arweinydd Plaid Cymru i gyfarfod â phartneriaid Ewropeaidd i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a’r UE

1
545
Rhun ap Iorwerth 2024 cropped
Rhun ap Iorwerth 2024 cropped

Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud wrth arweinwyr yr UE ym Mrwsel fod yn rhaid i Gymru ailadeiladu cysylltiadau cryf ag Ewrop yn wyneb ansefydlogrwydd byd-eang

Bydd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn teithio i Frwsel heddiw (dydd Mercher 18 Mawrth) i gyfarfod â phartneriaid Ewropeaidd fel rhan o ymdrechion i gryfhau perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod yr ymweliad, bydd yn cynnal trafodaethau gydag Aelodau Senedd Ewrop a chynrychiolwyr Ewropeaidd eraill ynghylch dyfnhau cydweithrediad rhwng Cymru a’r UE.

Bydd yn addo y byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn dilyn etholiad y Senedd ar Fai’r 7fed “y fwyaf rhyngwladol ei meddwl yn ein hanes” a bydd yn cyflwyno’r “achos economaidd dros i Gymru adeiladu cysylltiadau uniongyrchol â’n partneriaid Ewropeaidd – i hyrwyddo buddsoddiad, cryfhau masnach, cefnogi swyddi a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru”.

Bydd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Stephen Flynn, yn ymuno ag ef ar yr ymweliad.

Cyn ei ymweliad, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ansefydlogrwydd rhyngwladol ac ansicrwydd economaidd eisoes yn achosi poen i gartrefi a busnesau ledled Cymru. Ar adeg fel hon, mae cryfhau cydweithrediad economaidd gyda’n partneriaid masnach agosaf yn gwneud synnwyr ymarferol.

“Yr UE yw marchnad allforio bwysicaf Cymru o hyd, ond mae busnesau Cymru yn wynebu rhwystrau i fasnach sy’n ychwanegu costau, oedi ac ansicrwydd.

“Llywodraeth Plaid Cymru fyddai’r un fwyaf rhyngwladol ei meddwl yn ein hanes. Byddaf yn cyflwyno’r achos economaidd dros i Gymru adeiladu cysylltiadau uniongyrchol gyda’n partneriaid Ewropeaidd – i hyrwyddo buddsoddiad, cryfhau masnach, cefnogi swyddi a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru.

“Mae’r ymweliad yma yn ymwneud â sicrhau bod Cymru unwaith eto’n ymgysylltu’n weithredol â phartneriaid Ewropeaidd, gan adeiladu perthnasoedd sy’n cefnogi masnach, buddsoddiad a sefydlogrwydd economaidd hirdymor. Mae cysylltiadau Ewropeaidd cryf hefyd yn creu cyfleoedd i gydweithio mewn addysg, diwylliant a diogelwch, gan atgyfnerthu lle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson y byddai ailadeiladu cysylltiadau economaidd agosach â’r Undeb Ewropeaidd – gan gynnwys llwybr tuag at ailymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau – yn helpu i leihau ffrithiant masnach, cefnogi allforwyr Cymru a chryfhau rhagolygon economaidd hirdymor y wlad. Edrychaf ymlaen at gyflwyno’r achos hwnnw i gydweithwyr ym Mrwsel.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here