8.4 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Diweddariad cyffrous ar gynllun trawsnewidiol Pentre Awel 

Diweddariad cyffrous ar gynllun trawsnewidiol Pentre Awel 

0
630
Pentre Awel 2 scaled
Pentre Awel 2 scaled

MAE gwaith wedi cychwyn ar brosiect cyffrous gwerth miliynau o bunnoedd Pentre Awel yn Llynnoedd Delta.

Dechreuodd y gwaith o glirio’r safle ac archwilio’r tir yr wythnos hon wrth i’r contractwr Bouygues UK ddechrau ar Barth Un y datblygiad cyffrous hwn – y cyntaf o’i fath yng Nghymru a fydd yn dwyn ynghyd arloesedd gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol, a chyfleusterau hamdden modern ar safle arfordirol 83 erw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain y gwaith o gyflawni’r cynllun mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a phrifysgolion a cholegau lleol, fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £1.3 biliwn.

Bydd Pentre Awel yn cael ei ddatblygu mewn pedwar parth – bydd Parth Un yn elwa ar dros £70 miliwn o fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus i ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd trawsnewidiol i bobl yn y rhanbarth.

Amcangyfrifir bydd y datblygiad wedi’i gwblhau yn 2024, a bydd yn cynnwys canolfan hamdden o’r radd flaenaf gwerth £27 miliwn; pwll hydrotherapi gwerth £1.3miliwn; gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol gyda threialon clinigol ar lefel gymunedol, a chanolfan sgiliau llesiant sy’n darparu hyfforddiant iechyd a gofal.

Yr wythnos hon, mae Cynghorwyr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam a ddyfarnwyd i Bouygues UK, gan gynnwys costau manwl i sicrhau fforddiadwyedd yn ogystal â gwaith clirio safle ac archwilio i fireinio’r dyluniad.

Mae trafodaethau ar y gweill hefyd gyda thenantiaid i ddylunio a datblygu cyfluniadau mewnol.

Mae’r Cyngor a Bouygues UK bellach yn ymgysylltu â chyflenwyr a masnachwyr lleol i dynnu sylw at ystod enfawr o gyfleoedd i fod yn rhan o’r gwaith o adeiladu Parth Un, a bydd yn cynnal y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau ‘cwrdd â’r prynwr’ ym Mharc y Scarlets ar 30 Mawrth.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i ymgysylltu â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, ysgolion, colegau, prifysgolion, ac asiantaethau cyflogaeth lleol i sicrhau manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Aelod Cabinet dros Adfywio: “Mae’r contract hwn, sy’n un o’r ymarferion tendr uchaf ei werth y mae’r Cyngor erioed wedi ymgymryd ag ef, yn rhoi ffocws allweddol ar werth cymdeithasol i sicrhau y bydd pobl leol a busnesau yn elwa ar y manteision.

“Mae’n wych gweld cynnydd da yn cael ei wneud ar y cam cyn cychwyn wrth i’r gwaith rhagarweiniol ddechrau ar Barth Un ar y safle, dyluniadau newydd yn cael eu datblygu gyda mewnbwn tenantiaid y dyfodol, a’r cyntaf o lawer o ddigwyddiadau i ymgysylltu â chyflenwyr a busnesau lleol.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Bouygues UK am ddod nôl aton ni mor gyflym gyda chostiadau manwl, o gofio’r ansefydlogrwydd parhaus yn y diwydiant adeiladu o ganlyniad i ddigwyddiadau’r byd.

“Mae Pentre Awel yn brosiect trawsnewidiol, ac rydyn ni’n falch bod pobl leol eisoes yn dechrau gweld y manteision.”

Mae prosiect cyffrous Pentre Awel yn cynnwys cyfleusterau gofal ac adsefydlu corfforol integredig, canolfan sgiliau llesiant a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaeth a chanolfan hamdden o’r radd flaenaf, a llecynnau yn yr awyr agored wedi’u tirlunio ar gyfer cerdded a beicio.

Mae gwesty, ystod o dai cymdeithasol a fforddiadwy, llety byw â chymorth, a chartref nyrsio yn yr arfaeth ar gyfer camau dilynol y cynllun.

Gydag addewid i greu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb i’r economi leol o tua £467 miliwn, mae’n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi cael ei lofnodi rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Choleg Sir Gâr i ddarparu cyrsiau ar y safle. Prifysgol Caerdydd fydd y partner strategol ar gyfer darparu arloesedd a busnes ar y safle.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.