17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Local News Ceredigion News Pythefnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Lleol

Pythefnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Lleol

0
559
CCC Logo
CCC Logo

Dim ond pythefnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai, ac mae Cyngor Sir Ceredigion am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae’n ei gymryd.

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion yng Ngheredigion yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy’n cynrychioli eu hardal leol a’i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Os nad ydych am bleidleisio’n bersonol, gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00pm ddydd Mawrth 19 Ebrill. Fel arall, ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy gallwch wneud cais tan 5:00pm ddydd Mawrth 26 Ebrill.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol. Mae’r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yng Ngheredigion. Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.

Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau dryw gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu electoralservices@ceredigion.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen we ar gyfer pleidleiswyr: www.ceredigion.gov.uk/pleidleiswyr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.