16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle “Rwyf am i nyrsio a bydwreigiaeth fod y dewisiadau gyrfa mwyaf deniadol...

“Rwyf am i nyrsio a bydwreigiaeth fod y dewisiadau gyrfa mwyaf deniadol i weithwyr iechyd proffesiynol” – Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

0
339
Chief Nursing Officer CNO Sue Tranka scaled
Chief Nursing Officer CNO Sue Tranka scaled
Welsh Government

Heddiw [8 Ebrill 2022], mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, wedi amlinellu ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y proffesiynau  Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghynhadledd Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Ymysg y meysydd i ganolbwyntio arnynt dros y ddwy flynedd nesaf fydd cefnogi a chynyddu’r gweithlu, sicrhau tegwch yn y proffesiwn ac o ran gofal iechyd, a gwella canlyniadau i gleifion.

Y pum blaenoriaeth, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid, yw:

  • Arwain y proffesiwn – buddsoddi mewn nyrsys a bydwragedd sy’n arweinwyr a’u datblygu, a hynny ar bob lefel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, drwy raglenni arweinyddiaeth pwrpasol
  • Y gweithlu – cau’r bwlch o ran swyddi gwag, a denu, recriwtio a chadw gweithlu medrus sy’n llawn cymhelliant
  • Creu proffesiynau deniadol – ysbrydoli pobl i ymuno â’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth, a sicrhau mai hwn fydd y dewis mwyaf deniadol o ran gyrfa mewn gofal iechyd yng Nghymru
  • Gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol – darparu gofal teg o ansawdd da, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Tegwch yn y proffesiwn a chydraddoldeb gofal iechyd – creu gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth sy’n adlewyrchu’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

“Dyma’r tro cyntaf i flaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio gael eu pennu drwy gydweithio â’r Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio o fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG yng Nghymru. O ystyried y bydd angen mynd ati’n ddiymdroi er mwyn gwireddu’r blaenoriaethau hyn dros y ddwy flynedd nesaf, roedd yn bwysig i mi ein bod yn mabwysiadu dull gwirioneddol gydweithredol o’u dylunio, er mwyn sicrhau bod pawb yn cymryd perchenogaeth drostynt.”

“Mae fy mlaenoriaethau’n amlinellu nifer o gamau y byddaf yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo fel pennaeth y proffesiynau , ond rwy’n deall yn iawn hefyd na fyddaf yn arwain y gwaith hwn ar fy mhen fy hun. Mae’r themâu a’r meysydd y mae’r blaenoriaethau hyn yn eu cwmpasu yn rhychwantu sawl rhan o’r GIG, a bydd llawer o’r gwaith yn cael ei gefnogi, ei hyrwyddo a’i weithredu gan y rhai sy’n gweithio yn y system.”

“Mae’n glir i mi fod arweinyddiaeth y proffesiynau  yn ganolog i’r datblygiadau i’r system sydd eu hangen fel y gall ein gwasanaethau iechyd barhau i ddarparu gofal o safon uchel i’n cleifion i’r dyfodol. Felly, rwy’n awyddus i lywio’r gweithlu drwy’r cyfnodau pontio anochel sydd o’n blaenau ac i ysbrydoli mwy o bobl i ddewis maes nyrsio neu bydwreigiaeth, a fydd yn yrfa ddeinamig ac yn rhoi boddhad mawr iddynt.”

Bydd y digwyddiad hwn, sef cynhadledd gyntaf y Prif Swyddog Nyrsio yng Nghymru ers y pandemig, yn gyfle i’r rhai sy’n gweithio yn y proffesiynau  i fyfyrio, rhannu eu profiadau, a dathlu llwyddiannau yn dilyn cyfnod heriol i nyrsys a bydwragedd.

Yn ogystal â hynny, bydd y gynhadledd yn lansio Gwobr Ragoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio yn swyddogol, er mwyn cydnabod a dathlu’r rhai sy’n gwneud cyfraniad eithriadol a gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.