11.3 C
Llanelli
Friday, October 16, 2026
Home Newyddion Lle Astudiaeth yn dangos y ffactorau sy’n effeithio ar agwedd y cyhoedd tuag...

Astudiaeth yn dangos y ffactorau sy’n effeithio ar agwedd y cyhoedd tuag at Covid a’r normal newydd

0
548
New normal 2
New normal 2

Gallai’r argyfwng ynghylch partïon yn adeiladau llywodraeth y DU, diffyg sylw i’r feirws yn y cyfryngau a’r gred ei fod bellach yn llai peryglus i gyd effeithio ar gydymffurfiaeth â chanllawiau Covid yn y dyfodol. 

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod lleiafrif o bobl yn dal i gadw pellter cymdeithasol ac yn teimlo eu bod wedi cael eu cyflyru i fod yn fwy gofalus, er bod llawer o bobl yn credu bod bywyd bellach yn normal eto. 

Archwiliodd yr astudiaeth, gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o’r Ysgol Seicoleg, ymddygiad presennol pobl ynghylch Covid-19, gan gynnwys gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol, ymgymryd â phrofion ac ynysu. 

Yn ogystal, ystyriwyd barn pobl am bigiadau atgyfnerthu yn y dyfodol, gan gynnwys a fyddant am gael un ai peidio. Aeth yr astudiaeth rhagddi i holi pobl a fyddant yn debygol o ddilyn rheolau neu ganllawiau pe bai amrywiolyn arall yn dod i’r amlwg yn ystod yr hydref. 

Canfu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn fodlon cymryd camau yn y dyfodol er mwyn peidio â throsglwyddo Covid neu feirysau eraill, ond roedd nifer yn teimlo na fyddent yn cadw pellter cymdeithasol nac yn gwisgo mygydau oni bai fod y sefyllfa’n ddifrifol ac y byddai pobl yn dechrau marw eto. Roedd llawer o’r farn y byddai’r argyfwng ynghylch y partïon ac achosion eraill o dorri rheolau Covid gan wleidyddion yn effeithio ar gydymffurfiaeth â rheolau yn y dyfodol. 

Mae’r astudiaeth wedi cael ei chyhoeddi gan PsyArXiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd ynghylch pynciau llosg cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*ceir rhagor o wybodaeth isod). 

Dyma’r canfyddiadau allweddol eraill: 

  • Roedd diffyg sylw’r cyfryngau i’r pandemig, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng ynghylch costau byw ymysg y rhesymau pam roedd pobl yn teimlo nad oeddent yn meddwl am Covid i’r un graddau; 
  • Mae canfyddiad cyffredin bod amrywiolion (Omicron) newydd yn llai peryglus na’r rhai blaenorol, sydd wedi lleihau pryderon; 
  • Mae gwisgo mygydau bellach yn anghyffredin; 
  • Mae pobl yn barod iawn i gael profion. Fodd bynnag, roedd gwybodaeth pobl am bryd i gael prawf, a’r parodrwydd i brynu pecynnau profi, yn amrywio; 
  • Nid oedd yr awydd i ddiogelu’r GIG yn gymhelliant i gymryd camau i leihau ymlediad y feirws; ac
  • Nid oedd awydd mawr ymhlith pobl a oedd wedi cael tri phigiad i gael pigiadau atgyfnerthu yn y dyfodol. Awgrymodd nifer o bobl na fyddent yn debygol o gael pigiad atgyfnerthu arall heb argymhelliad neu wahoddiad swyddogol. 

Cynhaliwyd yr ymchwil drwy gyfrwng grwpiau ffocws ar-lein â 28 o gyfranogwyr rhwng 15 a 30 Mehefin 2022. 

Meddai Dr Williams: “Yn ôl ein hastudiaeth, mae llawer o bobl yn teimlo bod bywyd bellach yn normal eto, ac nid ydyn nhw wedi bod yn meddwl ryw lawer, os o gwbl, am Covid yn ddiweddar. Mae hyn yn ddealladwy – mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd ac mae hawl gan bobl i fwynhau’r rhyddid sydd ganddyn nhw, o’i gymharu ag adegau cynharach y pandemig. 

“Fodd bynnag, mae’n destun pryder hefyd, gan ein bod yng nghanol un don ar hyn o bryd, ac y bydd amrywiolion newydd a thonnau newydd yn debygol yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Yr her yw dod o hyd i ffordd fwy cytbwys a chynaliadwy o weithredu, lle gallwn gadw rhai ymddygiadau amddiffynnol, wrth i lywodraethau a sefydliadau roi cymorth drwy ddulliau mwy bras – megis awyru da, gweithio hybrid, profion am ddim, a thâl salwch gwell. 

“Mae nifer o oblygiadau i’n hastudiaeth. Mae’n bwysig cyfathrebu’n ddigonol ynghylch risgiau. Mae’n bwysig peidio â pheri i bobl boeni’n ddiangen am y pandemig, ond i’r un perwyl mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r effeithiau sy’n parhau. Mae’n bosib bod diffyg sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar a’r ffordd y mae rhai aelodau o lywodraeth y DU wedi bod yn sôn am ‘fyw gyda’r feirws’ yn y DU ‘ar ôl y pandemig’ wedi gwneud i bobl deimlo’n rhy ddiogel, a hynny ar gam. 

“Yn olaf, gwelwyd bod ymddiriedaeth yn hollbwysig wrth gymell pobl i ddilyn canllawiau a rheolau. Mae argyfwng y partïon wedi gwanhau’n ddifrifol hyder llawer o bobl yn y ffordd y mae llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r pandemig, yn ogystal ag effeithio o bosib ar eu parodrwydd i wneud pethau megis gwisgo mygydau neu gadw pellter cymdeithasol yn y dyfodol, yn ôl yr angen. 

“Mae rhai arwyddion pryderus na fydd pobl mor barod i gydymffurfio pe bai rhagor o ganllawiau a hyd yn oed rheolau yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Bydd hynny, wrth gwrs, yn effeithio ar ymlediad y feirws, nifer y bobl sy’n treulio cyfnodau yn yr ysbyty a gallu’r GIG i ymdrin â’r sefyllfa yn y pen draw.” 

** Mae PsyArXiv yn wasanaeth rhagargraffu am ddim i’r gwyddorau seicolegol. Nid yw rhagargraffiadau wedi cael eu hardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid ac ni ddylid eu defnyddio i lywio ymarfer clinigol.**


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.