8.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home hywel dda health board Canu neu arwyddo Yma o Hyd! 

Canu neu arwyddo Yma o Hyd! 

0
354
Rhwng Hwyl A Thaith Ac Yma O Hyd album cover min
Rhwng Hwyl A Thaith Ac Yma O Hyd album cover min

Gallwch ddewis canu neu arwyddo’r anthem eiconig Yma o Hyd, gyda’r dyn ei hun, Dafydd Iwan ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Bydd y cerddor a’r ymgyrchydd yn ymuno â therapyddion iaith a lleferydd o Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar eu stondin am 2pm ddydd Mercher 3 Awst 2022.

Y syniad yw dathlu ein hunaniaeth Gymreig a’n hiaith trwy gân ac iaith arwyddion.

Dywedodd Mererid Jones, Therapydd Iaith a Lleferydd Clinigol Arweiniol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fe wnaethon ni ofyn am ganiatâd Dafydd Iwan i arwyddo a chwarae Yma o Hyd ac fe’n syfrdanwyd yn llwyr pan ddywedodd y byddai’n dod i’w chanu gyda ni”

“Bydd yn hyfryd cael ymuno â’n gilydd mewn canu ac iaith arwyddion mewn digwyddiad sy’n argoeli i fod yn wirioneddol gynhwysol ac arbennig yn yr Eisteddfod eleni.”

Defnyddir system arwyddo sy’n cwmpasu siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff. Mae’n helpu i gyfathrebu’n effeithiol gyda phlant ac oedolion ag anawsterau iaith. Mae’r system hon yn seiliedig ar BSL ond dim ond i arwyddo geiriau ac ymadroddion allweddol y caiff ei defnyddio.

Bydd therapyddion iaith a lleferydd ynghyd â’u cydweithwyr therapi yn brysur ar stondin y Bwrdd Iechyd yn yr Eisteddfod drwy’r wythnos. Bob dydd am 11am mae sesiynau babanod ‘Babis Parablus’. Yna am 12pm a 3pm mae sesiynau stori amlsynhwyraidd.

Mae’r tîm Therapïau Iaith a Lleferydd hefyd wedi partneru â’r Eisteddfod i ddarparu byrddau cyfathrebu– adnodd gweledol defnyddiol i wneud y digwyddiad yn fwy cyfeillgar a chynhwysol o ran cyfathrebu.

Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac eisiau gwybod mwy am therapi iaith a lleferydd, ewch iTherapi iaith a lleferydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.