7.8 C
Llanelli
Friday, November 6, 2026
Home Environmental News Prosiect Gwreiddiau yn medi cynhaeaf euraid

Prosiect Gwreiddiau yn medi cynhaeaf euraid

0
426
Small Wildflower Meadow min
Small Wildflower Meadow min

Mae partneriaeth addysg sydd â’r nod o helpu plant i archwilio amgylchedd naturiol, cynnyrch a rhwydweithiau bwyd Sir Benfro yn mwynhau llwyddiant lliwgar iawn, diolch i brosiect creu dolydd mewn ysgol gynradd leol.

Mae gan bob dôl stori i’w hadrodd, ac mae gwreiddiau stori dôl flodau gwyllt Johnston yn ymestyn i 2019, pan benderfynodd yr ysgol gymryd rhan ym mhrosiect Gwreiddiau.

Sefydlwyd Gwreiddiau, sef prosiect partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chymorth ariannol South Hook LNG, i ddarparu sesiynau dysgu awyr agored diddorol, meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd lleol a darparu cymorth i ddatblygu mannau awyr agored.

Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Gyda’r blynyddoedd diwethaf wedi peri i ysgolion orfod cofleidio ffyrdd newydd o ddysgu, ni allai’r bartneriaeth Gwreiddiau wedi dod ar amser gwell. Ers ei sefydlu, mae cannoedd o blant lleol wedi cysylltu â’r amgylchedd, yn ogystal â busnesau a chymunedau lleol.

“Sefydlwyd y ddôl flodau gwyllt fechan yn Ysgol Johnston gyda chefnogaeth gan bartneriaeth Gwreiddiau, ynghyd ag arbenigedd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol. Ers hynny, mae wedi ffynnu ac wedi tyfu i fod yn gynrychiolaeth berffaith o bopeth yr oedd y prosiect yn gobeithio ei gyflawni o ran adfywio, bioamrywiaeth a chysylltedd â byd natur a’r gymuned.”

Yn gynharach yr haf hwn, gwahoddwyd cynrychiolwyr o South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol i fynd gyda disgyblion Blwyddyn 4 o Johnston ar ymweliad â fferm yn Hook sydd â dôl ysblennydd yn ymestyn i lawr at Afon Cleddau. Ar ôl dysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau o ddolydd a sut gall cribell felen gynnal cynefin iach, aeth y disgyblion â hadau yn ôl gyda nhw i blannu yn eu dolydd blodau gwyllt eu hunain.

Nawr bod y planhigyn wedi sefydlu, disgwylir y bydd y ddôl yn Ysgol Johnston yn mynd o nerth i nerth, gan ddarparu cynefin pwysig ar gyfer pryfed peillio a gwledd ar gyfer synhwyrau dynol yn ystod misoedd yr haf.

Wrth i’r bartneriaeth Gwreiddiau fynd yn ei blaen, bydd astudiaethau cynefin a chreu a chynnal amgylcheddau sy’n tyfu ar dir ysgolion yn parhau i fod yn feysydd ffocws allweddol, gyda chynlluniau i gryfhau ymwybyddiaeth ymhellach am gynhyrchwyr lleol yma yn Sir Benfro.

“Rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn cefnogi’r prosiect hwn ers ei sefydlu, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi cyfleoedd a phrofiadau newydd i blant ddysgu am eu hamgylchedd a rôl hanfodol rhwydweithiau bwyd a busnesau lleol ar draws ein sir,” meddai Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG, Mariam Dalziel.

“Mae addysg yn rhan bwysig o’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â chymuned Sir Benfro, ac mae llwyddiant parhaus prosiect Gwreiddiau yn brawf o fanteision amlwg dysgu yn yr awyr agored i gynifer o bobl ifanc.”  

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig, a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu. Mae’r bartneriaeth â South Hook LNG yn dangos cyd-ddealltwriaeth o ba mor hanfodol yw addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol.

I ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.