9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun grant £1.4 miliwn i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd...

Cynllun grant £1.4 miliwn i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd ynni bellach ar agor

0
439
Morriston solar farm min
Morriston solar farm min

Heddiw (23 Tachwedd) cyhoeddodd Gweinidogion fod cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar draws darparwyr Gofal Cymdeithasol Preswyl, a fydd yn helpu’r sector i ddelio â chostau’r argyfwng ynni, wedi’i lansio a bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Mae’r cynllun £1.4 miliwn yn rhan o Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.

Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi darparwyr gofal preswyl i weithredu mesurau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gan helpu i leihau effeithiau’r argyfwng costau ynni a symud y sector un cam yn agosach at allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Mae’r cynllun peilot hwn ar agor i ddarparwyr gofal preswyl sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’n cynnig grantiau rhwng £30,000 a £50,000 i ariannu buddsoddiadau, megis pympiau gwres, inswleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl/newydd, pympiau gwres o’r ddaear, inswleiddio atig, tanciau ac inswleiddio pibellau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae gennym ni gyd ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd ac mae’n rhaid inni weithredu nawr os ydym am leihau allyriadau a chyrraedd ein targed o allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Mae cynnydd da eisoes wedi’i wneud yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym am sicrhau bod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn effeithlon o ran ynni.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparwyr gofal cymdeithasol leihau effaith yr argyfwng ynni arnyn nhw, gwella eu Tystysgrif Perfformiad Ynni a gwneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy cynaliadwy. Rwy’n annog pob darparwr gofal preswyl i gyflwyno cais.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o’n heconomi bob dydd, gan ddarparu gwasanaethau a swyddi hollbwysig mewn cymunedau ledled Cymru gyfan.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau bod y cyllid hwn ar gael, a fydd yn cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ledled y wlad i leihau eu costau ynni.”

Mae gan fusnesau cymwys tan 21 Rhagfyr i ymgeisio am gyllid. Gellir cael gafael ar wybodaeth ar sut i ymgeisio drwy anfon e-bost at CartrefiGofalEffeithlonORanYnni@llyw.cymru / EnergyEfficientCareHomes@gov.wales


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.