7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Cyfle i fwynhau brecwast busnes gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro

Cyfle i fwynhau brecwast busnes gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro

0
344
SmallMinwear 01 min
SmallMinwear 01 min

Dyma gyfle unigryw i berchnogion busnes lleol rwydweithio gyda’i gilydd, gwrando ar siaradwyr gwadd i’w hysbrydoli a dysgu am waith un o elusennau mwyaf newydd Sir Benfro.

Bydd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n dathlu ei phumed pen-blwydd eleni, yn cynnal ei Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Busnes cyntaf erioed ddiwedd mis Mehefin.

Mae’r ymddiriedolaeth a sefydlwyd yn 2018, gyda’r nod cyffredinol o warchod tirwedd eiconig y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, wedi bod yn gweithio dros y pum mlynedd diwethaf i wella mynediad i gefn gwlad gwych Sir Benfro, hybu bioamrywiaeth a chadwraeth, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chefnogi sgiliau a swyddi yn yr ardal.

Bydd y Digwyddiad Brecwast am ddim, sy’n cael ei noddir gan South Hook LNG, yn cynnwys tri siaradwr gwadd gyda chysylltiadau lleol – Lucie Macleod, sylfaenydd y brand gofal gwallt feiral Hair Syrup; Prif Weithredwr Ymwelwch â Sir Benfro, Emma Thornton; a Tom Bean, Parcmon Addysg gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Sir Benfro, mae’r Digwyddiad Rhwydweithio yn gyfle perffaith i greu cysylltiadau â busnesau eraill ledled y sir, cael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a chlywed gan ein siaradwyr gwadd gwych – a mwynhau brecwast blasus ar yr un pryd!

“Rydyn ni wedi cyflawni cymaint dros y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig drwy weithio mewn partneriaeth, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu rhannu hyn â’r gymuned fusnes ehangach. Hoffem ddiolch i South Hook LNG am eu cefnogaeth garedig sydd wedi ein galluogi i gynnig y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.”

Cynhelir Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn Neuadd y Frenhines yn Arberth am 8am, ddydd Mercher 28 Mehefin. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gallwch chi gadw lle drwy anfon e-bost at support@pembrokeshirecoasttrust.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a’i gwaith, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.