17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Halloween Mae hanner tymor gwerth chweil ar y gweill yn atyniadau’r Parc Cenedlaethol

Mae hanner tymor gwerth chweil ar y gweill yn atyniadau’r Parc Cenedlaethol

0
528
Halloween PCNPA
Halloween PCNPA

Bydd tri atyniad ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau ar thema Calan Gaeaf yn ystod hanner tymor Hydref eleni, gydag ysbrydion a gweithgareddau bwganllyd i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Bydd Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i apelio at bob oed drwy gydol wythnos y gwyliau.

Mae’r digwyddiadau yng Nghastell a Melin Heli Caeriw yn cynnwys y cyfle i chwilio’r Castell arswydus am gliwiau mewn Helfa Ysbrydion rhwng 21 Hydref a 5 Tachwedd. Bydd yr unigolion sy’n ddigon dewr i fynd drwy’r Felin Heli dywyll a brawychus, mewn gwisg Calan Gaeaf, hefyd yn falch o glywed bod Y Felin Arswydus yn dychwelyd am ail flwyddyn o godi ofn, yn rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol.

Bydd sesiynau adrodd straeon rhyngweithiol gyda naws arswydus hefyd yn cael eu cynnal yn y Castell ar 2 a 3 Tachwedd am 10.15am, 12.15pm a 2pm. Mae Gweithdai Adrodd Stori Room on the Broom eich gwahodd chi i swatio wrth y tân wrth i wrach Caeriw ei hun ddefnyddio propiau i ddod â stori hudolus Room on the Broom gan Julia Donaldson yn fyw. Fe fydd y sesiynau hwyliog yn para awr ac fe argymhellir y sesiynau i blant rhwng 4 ac 8 oed, ac mae’n hanfodol archebu eich lle.

Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys Gweithdai Clai ArswydusCysgod y Fampir: Antur Ryngweithiol Fyw a Hwyl a Sbri Calan Gaeaf gyda Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig.

Bydd Ystafell De Nest ar agor bob dydd rhwng 10.30am a 4pm, gan weini cinio ysgafn, cacennau cartref a danteithion ar thema Calan Gaeaf, ynghyd â’i siocled poeth moethus adnabyddus.

Ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw i weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau hanner tymor a rhagor o fanylion, gan gynnwys prisiau ac amseroedd agor.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, mae ias yn yr awyr wrth i ŵyl hynafol Samhain, neu Galan Gaeaf, agosáu. Rhwng 22 Hydref a 5 Tachwedd, bydd ymwelwyr yn gallu dilyn llwybr pwmpenni arswydus wrth iddyn nhw chwilio am ysbrydion o orffennol Sir Benfro ar Lwybr Calan Gaeaf Henllys. Bydd cyfleoedd hefyd i ailgysylltu â’ch hynafiaid a rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau Cynhanes, gan gynnwys gwneud bara, o ddydd Llun i ddydd Iau.

Yn Storïau Arswydus Sir Benfro ar brynhawn 21 Hydref, bydd y goedwig dywyll o amgylch y pentref yn lleoliad ar gyfer taith arswydus a chyflwyniad i’r straeon rhyfedd a syfrdanol am greaduriaid a chymeriadau llên gwerin Cymru. Rhaid i chi archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn yn ogystal â Dathliad Samhain ar 28 Hydref. Un o uchafbwyntiau calendr Castell Henllys, yw’r diwrnod hwn o weithgareddau tymhorol a bydd nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal fel paentio wynebau, arddangosiadau goleuadau tân, straeon am yr Arallfyd a llawer mwy.

Yn Oriel y Parc, gall ymwelwyr ifanc ymuno â’r Llwybr yr Hylif Hudolus Coll rhwng 28 Hydref a 5 Tachwedd, ac ennill gwobr am ddod o hyd i’r cynhwysion cudd i helpu’r wrach i orffen ei hylif hudolus. Bydd Sesiwn Creu eich Daliwr Breuddwydion eich hun hefyd yn ystod y Clwb Dydd Mercher ar 1 Tachwedd. Sesiwn galw heibio yw hon, a fydd yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau wedi’u darganfod.

Efallai y bydd gan oedolion creadigol ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn Gweithdy Darlunio Arbrofol a Gwneud Marciau gyda’r artist lleol, Kate Freeman. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd sbon yn ogystal ag artistiaid sy’n dymuno gweithio mewn ffordd fwy rhydd, a bydd yn defnyddio cymysgedd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u darganfod gydag inciau botanegol. Mae hi’n hanfodol archebu eich lle, sy’n costio £30 y pen.

Bydd yr Oriel ar agor bob dydd drwy gydol yr hanner tymor, gan arddangos gwaith Ned Helyar, Judy Maynard a Chris Prosser.

Mae cyfle hefyd i archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd byw yn arddangosfa Geiriau Diflanedig. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn dod â gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris, a cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane ynghyd, am y tro cyntaf erioed.

Bydd Jackie Morris yn rhannu ei gwaith yn yr Oriel mewn digwyddiad galw heibio rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau hyn ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.