16 C
Llanelli
Monday, October 12, 2026
Home Newyddion Lle “MAE ANGEN ADDYSG WLEIDYDDOL AR BOBL IFANC NID GWASANAETH CENEDLAETHOL” – SIONED...

“MAE ANGEN ADDYSG WLEIDYDDOL AR BOBL IFANC NID GWASANAETH CENEDLAETHOL” – SIONED WILLIAMS AS

0
395
o3TlEKMW
o3TlEKMW

Y Senedd yn cefnogi galwad am addysg wleidyddol yn ysgolion Cymru

Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig am Fesur Addysg Wleidyddol mewn ysgolion a cholegau, gafodd ei gyflwyno gan Aelod Senedd Plaid Cymru Sioned Williams.

Dywedodd Ms Williams bod “cyfle wedi’i golli” yn y cwricwlwm newydd, a gyflwynwyd ar yr un pryd ⠲hoi’r bleidlais i bobl ifanc 16-17 yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg glir a chyson ar wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.

Gyda’r Senedd wedi pasio diwygiadau etholiadol hanesyddol yn ddiweddar, dywed Ms Williams ei bod yn “amserol, hanfodol ac yn hen bryd” i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ⦣8217;r ffaith bod y nifer sy’n pleidleisio yn gyson is na hanner cyfanswm yr etholwyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau’r Senedd, a chredir mai dim ond hanner y bobl ifanc 16-17 oed oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

Roedd cynnig Ms Williams ar gyfer Bil Addysg Wleidyddol yn:

  1. sicrhau bod addysg benodol yn ymwneud ⠧wleidyddiaeth a democratiaeth Cymru yn cael ei darparu;
  2. ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig; a
  3. sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo’n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a’r pwrpas a’r broses o fwrw eu pleidlais.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae Cymru wedi dangos y gall arwain y ffordd o ran democratiaeth – hi fydd y wlad gyntaf yn y DU i symud yn gyfan gwbl at ddefnyddio dull cyfrannol i ethol aelodau i’w Senedd, ac rydym eisoes wedi sicrhau pleidleisiau i bobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed yn etholiadau Cymru.

“Ond mae yna un ffactor sy’n ein dal ni’n ��a dyna’r nifer sy’n pleidleisio, yn enwedig o blith pobol ifanc. Os ydym yn credu mewn sicrhau’r ddemocratiaeth orau bosibl i Gymru, ni allwn eistedd yn �� derbyn bod nifer y bobl sy’n pleidleisio i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon yn gyson yn llai na hanner cyfanswm etholwyr Cymru.

“Mae angen i ni weithredu i newid hynny. A dyna beth a’m hysgogodd i gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Senedd, yn dilyn deisebau, adroddiadau a phryderon a godwyd gan bobl ifanc eu hunain bod diffyg ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.

“Rwyf mor falch bod fy nghynnig wedi ennill cefnogaeth y Senedd, er yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi ymatal. Mae’n amserol, yn hanfodol ac yn hen bryd i’r llywodraeth wrando ar y galwadau hyn a gweithredu arnynt, a thrwy’r system addysg y mae’r ffordd orau o wneud hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.