18.7 C
Llanelli
Sunday, August 16, 2026
Home Caring Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan...

Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg blynyddol

0
583
image001
image001

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio ei drydydd arolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol, Dweud Eich Dweud!

Mae’r arolwg yn rhoi cyfle unigryw i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i ateb cwestiynau am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, cyflog ac amodau gwaith, a’r hyn y maent yn ei hoffi am weithio yn y sector.

Nid oes angen paratoi ar gyfer yr arolwg Dweud Eich Dweud a bydd yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.

Mae’r ymatebion yn rhoi mewnwelediad i’r sector gofal cymdeithasol ac yn helpu i lywio’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Ofal Cymdeithasol Cymru a’i bartneriaid. Maent hefyd yn amlygu materion pwysig i lunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.

Bydd yr arolwg ar agor tan 7 Mawrth. Cwblhewch yr arolwg ar lein nawr.

Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg 2024 ym mis Hydref 2024 a bydd canlyniadau arolwg 2025 yn cael eu rhannu yn ddiweddarach eleni.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu Prifysgol Newydd Swydd Buckingham, Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) i helpu i wneud y gwaith hwn, ar ôl gweithio gyda’r un grŵp o bartneriaid i gyflawni arolwg y llynedd.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £20.

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Yr arolwg hwn yw eich cyfle i leisio’ch barn drwy ddweud wrthym am eich profiadau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Ymatebodd mwy na 5,000 o bobl i arolwg y llynedd. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd yr amser i ymateb.

“Fe wnaeth eich ymatebion dynnu sylw at eich ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac mae eich ymroddiad i unigolion a’u teuluoedd yn glir.

“Ond fe wnaethoch chi hefyd godi rhai materion pwysig iawn rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i helpu i fynd i’r afael â nhw.

“Gallwch chi ddarganfod mwy am y camau rydyn ni’n eu cymryd gyda’n gilydd yng Nghynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol, neu yn ymateb ysgrifenedig y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ganfyddiadau’r llynedd.

“Rydyn ni’n gwybod eich bod yn brysur, bod eich amser yn werthfawr ac na fydd cwblhau arolwg yn flaenoriaeth. Ond bydd cymryd yr amser i rannu eich barn yn ein helpu ni a’n partneriaid ehangach i ymateb i anghenion y gweithlu yn fwy effeithiol.

“Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud.”

Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarganfod mwyneu cwblhewch yr arolwg nawr.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.