Myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn archwilio gyrfaoedd y dyfodol mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin

0
319
Students with additional learning needs explore future careers at Carmarthen event
Students with additional learning needs explore future careers at Carmarthen event

Cynhaliodd Gyrfa Cymru, mewn cydweithrediad ag Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, ac arddangoswyr amrywiol, y digwyddiad ‘Beth nesaf? Dewiswch eich Dyfodol’ yng Nghaerfyrddin, gan roi cyfle i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol archwilio opsiynau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mawrth, 28 Ionawr 2025, rhwng 9.30am a 2.30pm, a chroesawodd y digwyddiad ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 o ysgolion arbennig ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Roedd tua 150 o fyfyrwyr yn archwilio eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn y digwyddiad.
Roedd 10 sefydliad o amrywiaeth o sectorau yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnig gwybodaeth am swyddi, gyrfaoedd, prentisiaethau, hyfforddiant a llwybrau addysgol.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdai rhyngweithiol, a chawsant gyfle i fwynhau gweithgareddau ymarferol i ddysgu am wahanol swyddi a chysylltu â darpar gyflogwyr. Roedd cynghorwyr gyrfa hefyd wrth law i roi cyngor a chyfarwydd diduedd ar gyrsiau, cymwysterau a llwybrau gyrfa.
Dywedodd disgybl Blwyddyn 10 a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Mae’n brofiad gwych i bob ysgol, mae’n dda bod cyflogwyr yn cyflwyno’u hunain i ni.”
Students interact with local employers
Ychwanegodd disgybl arall o Flwyddyn 10: “Rwy’n meddwl bod y digwyddiad wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Roeddwn i’n hoffi’r pethau rhyngweithiol.”
Dywedodd disgybl o Flwyddyn 11: “Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael pobl ifanc i’r math hwn o ddigwyddiad fel y gallan nhw weld yr holl opsiynau sydd ar gael.”
Dywedodd disgybl arall o Flwyddyn 11: “Mae’n gyfle da i archwilio opsiynau, yn enwedig i’r rheini ohonon ni sy’n ansicr ynghylch yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yn y dyfodol.”
Dywedodd Leanne McFarland, ymgysylltydd gyrfaoedd ar gyfer gofal rhanbarthol gyda Gofalwn Cymru: “Mae’n wych cael y digwyddiadau hyn sydd wedi’u trefnu gan Gyrfa Cymru, gan eu bod yn rhoi cyfle i bob myfyriwr weld pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddyn nhw, a pha opsiynau gwahanol sydd ganddyn nhw ar ôl gadael yr ysgol.”
Students interact with local employers
Dywedodd James Harper, rheolwr effaith gymdeithasol gyda Principality: “Mae’n wych bod yng Nghaerfyrddin heddiw. Mae’n wych cyfarfod â chynifer o bobl ifanc, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y gwasanaethau ariannol ledled Cymru.”
Dywedodd Hannah Stephens, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chreu amgylchedd cynhwysol lle gall pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol gysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.
“Yn ogystal â helpu i feithrin eu hyder a’u cymhelliant, bydd yr wybodaeth a’r anogaeth a gânt yn eu helpu i nodi cyfleoedd a gwneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Students interact with local employers
Ysgolion a oedd yn bresennol:
  • Ysgol Bro Teifi
  • Canolfan yr Eithin
  • Canolfan Elfed, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
  • Penglais – Canolfan Adnoddau Clyw
  • Heol Goffa
  • Ysgol Portfield
  • Stepping Stones, Penfro
  • Ysgol Penrhyn Dewi
  • Ysgol Tŷ Trafle
  • Ysgol Aberdaugleddau
  • Ysgol Uwchradd Aberteifi
  • Ysgol Bro Dinefwr
  • Ysgol Heol Goffa
  • Canolfan Y Gors
  • Ysgol Gyfun Emlyn
  • Coleg Ceredigion
Y rhestr lawn o gyflogwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gofalwn Cymru
  • Castell Howell
  • Cymdeithas Adeiladu’r Principality
  • Gwaith yn yr Arfaeth
  • Barod
  • Coleg Sir Gâr
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Cwmni Adeiladu Tilbury Douglas
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerfyrddin
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac adnoddau gyrfa yn y dyfodol, ewch i wefan Gyrfa Cymru.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here