9.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Government Ymweliad Gweinidogion Llywodraeth Cymru a’r DU â GE Aerospace i dynnu sylw...

Ymweliad Gweinidogion Llywodraeth Cymru a’r DU â GE Aerospace i dynnu sylw at y gefnogaeth i’r sector awyrofod yng Nghymru

1
525
Nia Griffith and Rebecca Evans at GE scaled
Nia Griffith and Rebecca Evans at GE scaled

Heddiw, ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith AS, â safle cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio (MRO) o safon fyd-eang GE Aerospace yn Nantgarw, er mwyn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi swyddi sgiliau uchel, arloesedd blaengar, a thwf economaidd yng Nghymru fel rhan o’i Strategaeth Ddiwydiannol sydd i ddod.

 Gyda Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Economi Llywodraeth Cymru, cyfarfu Gweinidogion â pheirianwyr, prentisiaid ac uwch-reolwyr i drafod sut mae buddsoddiad GE Aerospace yn ei alluoedd MRO yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Llywodraethau Cymru a’r DU i lywio arloesedd a chynaliadwyedd yn y sector awyrofod.

 Gyda mwy na 1,300 o weithwyr, mae safle Nantgarw GE Aerospace yn un o’r safleoedd MRO injans mwyaf a mwyaf datblygedig yn y byd, gan wasanaethu injans ar gyfer cwmnïau hedfan byd-eang, gan gynnwys y GE90 a’r CFM56, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi hedfan cynaliadwy. Gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, bydd Nantgarw hefyd yn gartref i injan GE9X pan fydd yn cyrraedd y cam cyflwyno.

 Fel rhan o’i ymrwymiad hirdymor i Gymru, cyhoeddodd GE Aerospace fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ei safle MRO yn Nantgarw yn ddiweddar, gan gryfhau ei alluoedd ymhellach a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn cynnal a chadw ac atgyweirio injans. Mae’r buddsoddiad yn rhan o wariant MRO byd-eang, aml-flwyddyn GE Aerospace a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf.

Mae’r ymweliad yn dilyn cyhoeddiad cyllid diweddar y Canghellor Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI), sy’n darparu cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth y DU ar gyfer ymchwil i dechnolegau hedfan y genhedlaeth nesaf, gan atgyfnerthu arweinyddiaeth y DU yn y diwydiant.

Nia Griffith at GE

 Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

 “Mae sector awyrofod y DU yn gonglfaen i’n heconomi, ac mae Cymru’n chwarae rhan hanfodol yn ei llwyddiant.

 “Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hanfodol o gyflawni ein prif genhadaeth o dyfu’r economi, ac rydym wedi ymrwymo i weld bod cwmnïau fel GE Aerospace yn cael y gefnogaeth a’r buddsoddiad sydd eu hangen arnynt i aros ar flaen y gad o ran arloesi mewn sector hynod gystadleuol, er mwyn ein helpu i gyflawni’r twf economaidd hwnnw.

 “Mae’r cyhoeddiad cyllido ATI diweddar yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i ddatblygu technolegau hedfan gwyrddach, mwy effeithlon tra’n sicrhau swyddi o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.” 

 

Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr safle GE Aerospace yng Nghymru: 

“Mae tîm Cymru yn falch o ddarparu gwasanaethau MRO o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid cwmnïau hedfan byd-eang. Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch, ansawdd, darpariaeth a chost yn y drefn honno, rydym yr un mor gyffrous am y dyfodol. Wrth edrych ymlaen, bydd ein safle yn dod yn gartref newydd ar gyfer yr injan GE9X, yr injan awyrennau masnachol mwyaf a mwyaf pwerus a adeiladwyd erioed. 

“Bydd cefnogaeth y llywodraeth, gan gynnwys mentrau fel y Bartneriaeth Twf Awyrofod ynghyd â chyllid hirdymor ar gyfer y Sefydliad Technoleg Awyrofod, yn parhau i roi’r hyder i gwmnïau fel GE Aerospace dyfu, buddsoddi a gwella technolegau a galluoedd newydd yn y DU.”

Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: 

“Mae Cymru yn le rhagorol ar gyfer gweithgareddau gweithgynhyrchu a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig ag awyrofod, ac mae’r safle hwn sy’n arwain y byd gan GE Aerospace yn bluen arall yng nghap ein sector awyrofod ffyniannus. 

“Mae ein cyfraniad ariannol o £5 miliwn wedi helpu i ddarparu’r safle a’r gweithlu presennol i uwchsgilio, wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrennau trwy hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae hyn yn golygu cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel i bobl sy’n byw yn y cymunedau cyfagos.”

Tanlinellodd yr ymweliad y bartneriaeth gref rhwng y diwydiant a’r llywodraeth wrth ysgogi arloesedd a buddsoddiad, gan sicrhau bod cwmnïau fel GE Aerospace a’r sector awyrofod ehangach yn parhau i fod ar flaen y gad yn strategaethau diwydiannol Llywodraeth Cymru a’r DU.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.