22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Y Diffoddwr Tân Mel Herbert yn Cwblhau Hanner Marathon Mewn Cit Diffodd...

Y Diffoddwr Tân Mel Herbert yn Cwblhau Hanner Marathon Mewn Cit Diffodd Tân Llawn

0
696
Race 04 scaled
Race 04 scaled

Ddydd Sul, 16 Mawrth, cwblhaodd Mel Herbert, Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets, Hanner Marathon Mawr Cymru – mewn cit diffodd tân llawn.

Ar ôl sawl wythnos o baratoi, cwblhaodd Mel y ras 13 milltir o hyd yn gwisgo tiwnig diffodd tân, trowsus a set offer anadlu – a’r set honno’n pwyso tua 13 pwys ar ei phen ei hun – mewn ychydig llai na thair awr.

Penderfynodd Mel ymgymryd â’r her o gwblhau’r ras, a ddechreuodd ac a ddaeth i ben ym Mharc Gwledig Pen-bre ac a oedd yn cynnwys Porth Tywyn, i godi arian pwysig ac ymwybyddiaeth o Elusen y Diffoddwyr Tân.  Mae’r Elusen yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol diffoddwyr tân sy’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd a phersonél eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Wrth siarad am gwblhau Hanner Marathon Mawr Cymru, dywedodd Mel:

“Roedd y gefnogaeth a gefais gan y dorf a’m cyd-redwyr yn anhygoel.

Rwy’n siŵr y gellid bod wedi clywed y dorf filltiroedd i ffwrdd ac roedd eu cymeradwyaeth yn fy nghadw i fynd tuag at y llinell derfyn. Fe wnes i hyd yn oed dynnu fy nghlustffonau tuag at ddiwedd y ras i allu ymgolli yn y cyfan!

Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’m cyd-aelodau o’r criw yng Ngorsaf Dân Pont-iets sydd wedi fy annog drwy gydol fy hyfforddiant ac a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth ar y diwrnod.  Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda iawn ac roedd yn brofiad anhygoel na fyddaf byth yn ei anghofio.”

Ar hyn o bryd mae Mel wedi codi dros £560 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac mae’n dal i godi arian trwy ei thudalen JustGiving.

Gwneud Gwahaniaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad

Yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn ei chymuned yn dilyn trasiedi deuluol, cafodd Mel ei hysbrydoli i fynd i Ddiwrnod Blasu i Ddiffoddwyr Tân, digwyddiad a gynhelir yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae Mel bellach yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets, sy’n golygu ei bod yn cael ei hysbysu am alwadau brys trwy ddyfais alw bersonol tra ar ddyletswydd.

Am ei gwaith fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd Mel:

“Er fy mod yn dal yn fy mlwyddyn gyntaf fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, rwy’n mwynhau fy rôl yn fawr.

Rwy’n mwynhau’r cynnwrf o ymateb i ddigwyddiad a gweld fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned ac i bobl mewn angen.  Rwyf hefyd wedi mwynhau’r hyfforddiant sy’n dod fel rhan o’r rôl. Yn ddiweddar fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant ar gyfer ymateb i ataliad ar y galon, a fydd yn gwella gallu’r Orsaf Dân i ymateb i sefyllfaoedd.

Mae’r canfyddiad hen ffasiwn yn dal i fodoli, sef na all menywod fod yn Ddiffoddwyr Tân, ond rwy’n brawf y gall menywod ddod â chryfder a safbwyntiau amrywiol i broffesiwn sy’n elwa o gynwysoldeb a gwaith tîm.

I unrhyw un sy’n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, byddwn yn eu hannog i fynd amdani – dyma’r peth gorau dwi wedi ei wneud.”

Mae 75% o Orsafoedd Tân ac Achub Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Fel rôl y System Ddyletswydd Amser Cyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a digwyddiadau gwasanaeth arbennig fel gwrthdrawiadau ar y ffordd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy.  Mae’n ofynnol iddynt hefyd hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yng nghartrefi pobl.

Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, ewch i wefan y Gwasanaeth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.