12.3 C
Llanelli
Wednesday, September 23, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Elusen y GIG yn ariannu rhaglen therapi syrffio arloesol

Elusen y GIG yn ariannu rhaglen therapi syrffio arloesol

0
39
Surf tonic
Surf tonic

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi ariannu rhaglen Therapi Syrffio Tonic gwerth £4,000. Talodd y cyllid i ddeg o bobl ifanc a oedd yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl gymryd rhan yn y rhaglen deg sesiwn.

Mae’r rhaglen Therapi Syrffio Tonic yn darparu cyfarwyddyd syrffio strwythuredig ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc brofi’r llawenydd a’r lles a ddaw o ymgysylltu â’r amgylchedd morol.

Mae’r sesiynau’n darparu ffordd effeithiol i ymarferwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (sCAMHS) ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd gadarnhaol a helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu barhau i oedolaeth.

Dywedodd Alastair Wakely, Rheolwr Darparu Gwasanaeth (sCAMHS): “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion caredig gan ein cymunedau lleol wedi ariannu’r sesiynau Therapi Syrffio Tonic. 

“Mae’r sesiynau’n ymyriad effeithiol ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl, gan gyflwyno canlyniadau cadarnhaol gan gynnwys gwella hwyliau, llai o feddyliau am hunan-niweidio a hunanladdiad, llai o bryder cymdeithasol a gwell hunan-barch.

“Mae’r prosiect hefyd wedi caniatáu i ni werthuso ac archwilio potensial therapi syrffio fel ymyriad effeithiol ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych gweld rhaglenni hynod uchelgeisiol a chreadigol fel hyn yn cael eu darparu diolch i roddion elusennol.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth ein cymunedau lleol sy’n ein galluogi i gynnig gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer yn nhair sir Hywel Dda.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.