Datgloi Potensial y Ddiadell: Mae Cyswllt Ffermio yn ychwanegu gweithdy defaid newydd at y rhaglen hyfforddi

0
320
Farming Connect adds new sheep workshop to training programme (photo credit NADIS)

Mae Cyswllt Ffermio bellach yn cynnig gweithdy hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid newydd, wedi’i ariannu’n llawn ac wedi’i achredu gan Lantra o’r enw ‘Y Famog Denau – Ymchwilio a Rheoli’. Bydd yr hyfforddiant gwerthfawr hwn, sy’n canolbwyntio ar faterion allweddol iechyd a lles anifeiliaid, yn cael ei gyflwyno gan bractisau milfeddygol lleol cymeradwy ledled Cymru.

Mae’r gweithdai hyn wedi’u cynllunio i arfogi cyfranogwyr â sgiliau hanfodol mewn rheolaeth ac iechyd defaid. 

Bydd mynychu’r gweithdy yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r mynychwyr o wahanol achosion o gyflwr gwael mewn mamogiaid a sut mae’n effeithio ar eu hiechyd, eu ffrwythlondeb, eu cynhyrchiant a’u lles. Byddwch chi’n dysgu sut i Sgorio Cyflwr Corff mamogiaid yn effeithiol, gyda chanllawiau ar sut i fynd i’r afael â phroblemau gyda chyflwr mamogiaid a rhesymau pam ei bod hi’n bwysig sgorio cyflwr corff yn rheolaidd. 

Bydd ffocws allweddol ar y pump ‘clefyd Rhewfryn’ a’u mesurau ataliol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i fonitro cyflwr cyrff y ddiadell gan ddefnyddio paramedrau mesuradwy, gan wybod pryd mae angen ymyrraeth.

Bydd cyfle i edrych ar bwysigrwydd bioddiogelwch llym, gan fanylu ar fesurau hanfodol i atal cyflwyno clefydau rhewfryn, neu glefydau a pharasitiaid eraill i ddiadelloedd iach. 

Mae’r gweithdy hyfforddi yn ymdrin â’r nifer o achosion o gyflwr gwael mewn mamogiaid. Byddwch yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer cywiro problemau presennol ac atal rhai newydd, ac yn ennill y gallu i nodi ffactorau risg cysylltiedig o fewn eich diadell. 

‘Rwy’n ystyried bod cynnal sgôr cyflwr corff priodol ar gyfer mamogiaid yn ffactor sylfaenol ar gyfer cael mamogiaid cynhyrchiol ac iach o fewn diadell. Bydd y gweithdy newydd hwn sy’n edrych ar achosion mamogiaid tenau yn caniatáu inni ymhelaethu ar y pwnc hwn gyda’n cleientiaid fferm, gan nodi strategaethau ar gyfer rheoli ac atal yn y dyfodol.’ cytunodd Gareth Mulligan, Milfeddygon Afon 

Bydd presenoldeb mewn gweithdai yn cael ei gofnodi ar gofnod DPP ‘Storfa Sgiliau’ y mynychwr ynghyd â ‘thystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra.

Mae’r gweithdai hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwnnw, rhaid i bob mynychwr gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).

Am ddyddiadau a manylion gweithdai sydd ar ddod, ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol i gael gwybod mwy.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here