
Farm dog spread of life-endangering worm disease investigatedMae astudiaeth arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau.
Er gwaethaf degawdau o ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, mae’r parasit sy’n gyfrifol am glefyd hydatid yn parhau i fod yn endemig yng nghanolbarth Cymru. Mae’r rhanbarth yn cael ei gydnabod fel man lle ceir llawer o achosion o’r clefyd, sy’n peri risgiau i les da byw, cynhyrchiant ffermydd, ac iechyd pobl.
Yn y DU, cŵn sy’n rhoi’r cartref terfynol i’r parasit Echinococcus granulosus, ond defaid fel arfer sy’n gwasanaethu fel cyfryngwyr. Mae cylch bywyd y parasit yn cael ei gynnal pan fydd defaid yn llyncu wyau o ysgarthion cŵn, gan ddatblygu systiau yn eu horganau. Yna mae’r cŵn yn cael eu hail-heintio trwy fwyta gweddillion neu gael eu bwydo â chig offal defaid sydd wedi eu heintio, gan barhau’r cylch.
Gall pobl hefyd letya’r parasit yn ddamweiniol – mae’r haint yn anodd iawn i’w drin a gall arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol neu farwolaeth. Mae hyn yn gwneud presenoldeb y parasit mewn cŵn yn bryder iechyd cyhoeddus.
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwaith maes ledled canolbarth Cymru i edrych ar sut mae’r rhyngweithio rhwng pobl a chŵn mewn cymunedau amaethyddol yn dylanwadu ar drosglwyddo’r clefyd hydatid ar draws rhywogaethau.
Dywedodd yr ymchwilydd Keira Washtell, o Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r ymchwil hon yn mynd y tu hwnt i gadw gwyliadwriaeth ar glefydau – mae’n ymwneud â deall sut mae pobl yn cydfyw â chŵn ac yn gofalu amdanynt, a sut mae’r perthnasoedd hynny, y risgiau amgylcheddol a’r risgiau i iechyd cyhoeddus yn croesi ar draws ei gilydd.
“Trwy edrych ar symudiadau cŵn, eu ffordd o fyw a chanfyddiadau pobl yn y gymuned, ein nod yw dod o hyd i strategaethau ymarferol, lleol i leihau trosglwyddiadau milheintiol.”
Bydd ymchwilwyr yn defnyddio coleri GPS i olrhain symudiadau cŵn fferm sy’n crwydro’n rhydd, a dadansoddi samplau o ysgarthion o’r tir ffermio er mwyn ymchwilio i’w dietau.
Bydd tîm y prosiect yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, milfeddygon, arbenigwyr iechyd cyhoeddus, a grwpiau o berchnogion cŵn, i gasglu gwybodaeth ynglŷn â pham efallai na fu negeseuon iechyd cyhoeddus blaenorol am glefydau hydatid yn llwyddiannus.
Ychwanegodd Dr Gwenllian Rees o’r Ysgol Filfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Er bod clefyd Hydatid yn gymharol brin yn y DU heddiw, mae iddo arwyddocâd hanesyddol yng nghanolbarth Cymru ac mae tystiolaeth yn dangos bod y clefyd yn cynyddu unwaith eto sy’n bryder gwirioneddol mewn ardaloedd lle mae ffermio da byw a chysylltiad agos â chŵn gwaith yn rhan o fywyd bob dydd.
“Bydd dull trawsddisgyblaethol y prosiect hwn – gan ddod â’r meysydd daearyddiaeth, parasitoleg, epidemioleg a gwyddoniaeth ymddygiadol ynghyd – yn ein helpu i ddeall a mynd i’r afael yn well ag achosion sylfaenol trosglwyddo clefydau.”
Trwy edrych ar y rhyngweithio rhwng ymddygiad dynol a ffactorau amgylcheddol, mae’r tîm ymchwil yn gobeithio llywio strategaethau rheoli clefydau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mwy effeithiol, gan gynorthwyo’r ymdrechion i ddileu’r parasit yn y pen draw.
Mae Dr Andrew Nelson, uwch epidemiolegydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhan o’r prosiect. Dywedodd:
“Mae clefyd Hydatid, sy’n gallu achosi systiau yn yr afu neu’r ysgyfaint, yn parhau i fod yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol. Gall symptomau gymryd blynyddoedd i ddatblygu, sy’n golygu na allwch ddeall y risgiau i’r cyhoedd yn llawn trwy astudio achosion dynol. Bydd yr ymchwil amlddisgyblaethol hon yn helpu i bontio’r bwlch hwn drwy daflu goleuni ar yr hyn sy’n gyrru’r haint dynol yn yr union gymunedau yng Nghymru sydd fwyaf agored i’r perygl o glefyd hydatid.”
Mae’r ymchwil yn rhan o OneZoo, rhaglen hyfforddiant ddoethurol ledled y DU a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain a Phrifysgol y Frenhines Belfast i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o glefydau milheintiol.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |









