13.3 C
Llanelli
Wednesday, May 20, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Marathon dartiau 24 awr a nosweithiau seicig yn codi dros £3,900 i...

Marathon dartiau 24 awr a nosweithiau seicig yn codi dros £3,900 i elusennau

0
593
Molly's Memory 2

Mae Molly’s Memory, a sefydlwyd gan Serah a Jamie Barnes, wedi codi £3,918 ar gyfer Tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth Sir Gaerfyrddin.

Molly's Memory 2

Sefydlodd Serah a Jamie, sy’n hanu o’r Tymbl, Molly’s Memory fel diolch i’r Tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth a ddarparodd ofal cyson, rownd y cloc i Serah a Jamie yn 2019, ar ôl i Molly, eu merch, fod yn farw-anedig.

Dywedodd Serah: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Molly’s Memory ers 2019 ac wedi mynychu ein digwyddiadau, y marathon dartiau 24 awr a nosweithiau seicig. 

Molly's Memory

“Mae’r elusen hon yn agos iawn at fy nghalon i a chalon fy nheulu, gan godi arian er mwyn cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan farw-enedigaeth. Byddaf yn parhau i godi arian dros y blynyddoedd i ddod trwy Molly’s Memory.

“Rwy’n gobeithio helpu eraill sydd wedi profi colli babi a lledaenu ymwybyddiaeth. Mae codi arian a threfnu digwyddiadau er cof am Molly ar gyfer y Tîm Profedigaeth Bydwreigiaeth wedi fy helpu gyda’m galar fy hun o golli fy merch. Un peth rydw i wedi’i ddysgu yw nad yw marw-enedigaeth yn cael ei siarad digon amdano, felly mae codi ymwybyddiaeth mor bwysig.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch o galon i Serah, Jamie a’u cefnogwyr am eu caredigrwydd a’u haelioni.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here