11.8 C
Llanelli
Tuesday, April 28, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Rhoddion elusennol yn ariannu uwchraddio ystafell staff ar gyfer fferyllfa Glangwili

Rhoddion elusennol yn ariannu uwchraddio ystafell staff ar gyfer fferyllfa Glangwili

0
762
GGH Pharmacy staff room refurb

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £26,984 i ariannu adnewyddu ystafell staff fferyllfa Ysbyty Glangwili.

Oherwydd ei faint a’r nifer cynyddol o bobl yn ei defnyddio, roedd ystafell staff y fferyllfa wedi dod yn annigonol fel lle gorffwys.

Mae’r ystafell staff wedi’i huwchraddio, sy’n cynnwys cyfleusterau cegin a dodrefn newydd eu gosod, yn sicrhau y gall holl staff y fferyllfa fwynhau lle ymlaciol a chymryd seibiant mewn cysur.

Esboniodd John Harris, Pennaeth Fferyllfa Glangwili: “Roedd ystafell orffwys y staff wedi bod yn cael ei defnyddio ers dros 30 mlynedd ac yn wreiddiol roedd yn darparu ar gyfer 20 aelod o staff; mae dros 70 bellach.

“Mae’r ystafell wedi’i hadnewyddu’n darparu lle llawer mwy cyfforddus a hyblyg. Nawr gall staff y fferyllfa fwynhau ardal o ansawdd uchel, ymlaciol lle gallant gymryd peth amser i ffwrdd.

“Gobeithiwn y bydd gan yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu effaith gadarnhaol iawn ar ein staff, gan eu helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae creu lle ymlaciol i staff mor bwysig: mae’n rhoi seibiant o ofynion y dydd ac yn cefnogi lles staff yn fawr.

“Mae haelioni ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleUK Households Warned Not To Dry Clothes Outside This Week
Next article£2 Million Council Underspend
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here