17.8 C
Llanelli
Wednesday, September 23, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Plant sydd wedi wynebu llawdriniaeth ar y galon yn recordio cân Nadolig...

Plant sydd wedi wynebu llawdriniaeth ar y galon yn recordio cân Nadolig i wasanaeth y GIG

0
705
Cân o'r Galon

Mae côr o blant sydd wedi wynebu llawdriniaeth ar y galon yn ddewr, ynghyd â ffrindiau a’u teuluoedd, wedi recordio cân Nadolig Gymraeg, sef ‘Pob Un Plentyn’, i godi arian i wasanaeth Cardioleg Bediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ffurfiwyd y côr, o’r enw Cân o’r Galon, i ddathlu cryfder ac enaid y plant sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon.

Yn cyfeilio i gôr Cân o’r Galon wrth berfformio’r gân oedd y band ifanc Coron Moron.

“Mae’r plant sy’n cymryd rhan wedi wynebu heriau anferthol ond, eto i gyd, maen nhw wedi dod â chymaint o lawenydd a dewrder i’r prosiect hwn,” meddai Dr Siân Jenkins, Meddyg Ymgynghorol mewn Pediatreg Gyffredinol, a gyfansoddodd y gân.” 

Mae un o’r cantorion ifanc, sy’n 13 oed, ymhlith y rhai a gefnogwyd gan dîm cardiaidd Ysbyty Glangwili. Dywedodd ei gwarcheidwad, Kristie Gordon: “Mae’r côr hwn wedi rhoi rhywbeth cadarnhaol i’r plant fod yn rhan ohono ac ymfalchïo ynddo. Mae’n fodd i ddathlu eu cryfder a diolch i’r bobl sydd wedi eu cadw i fynd.”

Gobaith y rhai sy’n codi arian yw y bydd y gân Nadolig yn ysbrydoli pobl i roi rhodd i Gardioleg Bediatrig yn Hywel Dda i wella’r gofal i gleifion ifanc ledled Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

Bydd yr elw yn talu am eitemau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant craidd y GIG, a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau cleifion ifanc a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

“Ein gobaith yw y bydd y prosiect yma’n ein helpu i gefnogi plant a theuluoedd lleol y mae Clefyd Cynhenid y Galon yn effeithio arnynt, ac yn hybu ymwybyddiaeth am y cyflyrau a’r heriau sy’n eu hwynebu nhw,” meddai Siân.

I wrando ar ‘Pob Un Plentyn’, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=66lfhmA4D8c&list=RD66lfhmA4D8c&start_radio=1

I roi arian at yr achos, ewch i: https://www.justgiving.com/page/paediatric-cardiology-hyweldda


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.