3.4 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Rhodd o’r Gronfa Ddymuniadau gwerth £1,870 yn darparu diwrnod allan Nadoligaidd i...

Rhodd o’r Gronfa Ddymuniadau gwerth £1,870 yn darparu diwrnod allan Nadoligaidd i deuluoedd

0
976
Folly Farm pic

Mwynhaodd plant a gefnogir gan y Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig ddiwrnod allan yn yr awyr agored yn Folly Farm diolch i rodd hael i’n hymgyrch Cronfa Ddymuniadau.

Rhoddodd Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth £1,870 yn garedig i Ddiwrnod Nadolig i’r yn Folly Farm ar 29 Tachwedd 2025, a alluogodd blant sy’n derbyn gofal y GIG i fwynhau trip arbennig i’r parc antur a’r sw.

Cafodd plant, teuluoedd a staff o’r Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig fynediad i Folly Farm, mynediad i’r reidiau a thaleb pryd bwyd. Cymerasant ran hefyd mewn gweithgaredd addurno bara sinsir ar y diwrnod.

Dywedodd Rachel Harrison, Rheolwr a Chofrestrydd Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth ei bod yn “anrhydedd” gallu helpu elusennau a chymhellion lleol fel y Gronfa Ddymuniadau.

Dywedodd: “Mae gweld yn union ble mae’r arian yn mynd yn galonogol iawn. Mae’r gwaith y mae’r Gronfa Ddymuniadau yn ei wneud yn amhrisiadwy ac rydym yn gobeithio eu cynorthwyo eto yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Fynwent ac Amlosgfa Aberystwyth am eu rhodd hael. Diolch i’w cefnogaeth, roedd teuluoedd yn gallu mwynhau diwrnod gwirioneddol arbennig gyda’i gilydd, gan greu atgofion a fydd yn para am oes.

“Oherwydd cefnogwyr caredig fel y rhain y gallwn barhau i gynllunio’r profiadau ystyrlon hyn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i

https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.