- Mae Anna McMorrin , Gweinidog yn Swyddfa Cymru, wedi dod â phrifysgolion Cymru a Phrif Weithredwr UKRI ynghyd i roi hwb i gydweithio a helpu Cymru i sicrhau mwy o gyllid ymchwil ac arloesi.
- Cytunodd y prifysgolion i gydweithio’n agosach, gan nodi pennod newydd i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru.
- Nod y fenter yw creu mwy o swyddi, denu mwy o fuddsoddiad a rhoi hwb i dwf economaidd drwy adeiladu ar gryfderau ymchwil a safon fyd-eang Cymru
Mae Anna McMorrin, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, wedi dod â phrifysgolion Cymru a chorff cyllido ymchwil y DU, Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), i ddenu mwy o fuddsoddiad ym maes ymchwil a datblygu.
Cadeiriodd y Gweinidog McMorrin drafodaeth bord gron a oedd yn canolbwyntio ar sut gallai gweithio’n agosach helpu Cymru i gael cyfran uwch o gyllid UKRI, a gwneud y mwyaf o gyfraniad Prifysgolion Cymru i dwf ehangach ac agenda arloesi’r DU, yn ogystal â chefnogi twf a chreu rhagor o gyfleoedd ledled y wlad.
Mae prifysgolion Cymru yn ganolog i economi Cymru a’r DU, gan weithredu fel sefydliadau angor mewn cymunedau ledled Cymru. Maent yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno twf economaidd, cefnogi busnesau lleol, datblygu sgiliau a chreu swyddi o ansawdd uchel. Ond, ar hyn o bryd, dim ond 3% o gyllid UKRI y mae Cymru’n ei gael, er gwaethaf perfformiad cryf a statws rhyngwladol ei sylfaen ymchwil.
Yn ystod y drafodaeth, nododd y prifysgolion eu hymrwymiad cyffredin i ddyfnhau cydweithio ar draws y sector, gan gynnwys drwy fentrau sydd eisoes yn bodoli, fel Rhwydwaith Arloesedd Cymru. Nod y dull cyfunol hwn yw adeiladu capasiti ymchwil cryfach, cynyddu cystadleurwydd a gwella cyfraddau llwyddiant ceisiadau i raglenni cyllido UKRI.
Dywedodd Anna McMorrin, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
“Mae prifysgolion yn chwarae rhan ganolog wrth dyfu’r economi a chreu cyfleoedd ym mhob rhan o Gymru. Drwy ddod â’n prifysgolion ac UKRI ynghyd, rydym ni’n mabwysiadu dull mwy strategol a chydweithredol o sicrhau bod Cymru’n gallu cystadlu’n effeithiol am gyllid ymchwil ac arloesi.
“Mae hyn yn ymwneud â datgloi ein potensial. Mae Prifysgolion Cymru eisoes yn gwneud gwaith ymchwil o’r radd flaenaf, ond drwy gydweithio’n agosach ac mewn partneriaeth, gallwn wneud rhagor yn gynt wth gefnogi swyddi, denu buddsoddiadau a rhoi hwb i arloesedd ledled Cymru.
“Nid yw hyn yn golygu rhoi triniaeth arbennig, mae’n golygu ein bod yn sicrhau bod system cyllido ymchwil y DU yn llwyr gydnabod y cryfderau sy’n bodoli ym mhob gwlad a rhanbarth.”
Dywedodd Syr Ian Chapman, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi’r DU:
“Roedd y drafodaeth bord gron yn dangos cryfderau prifysgolion Cymru a’u hymrwymiad i gydymffurfio â blaenoriaethau UKRI a Llywodraeth y DU. Dangosodd y prifysgolion fomentwm cynyddol i ddyfnhau gwaith cydweithio ledled Cymru, gan gynnwys drwy Rwydwaith Arloesedd Cymru, i hybu llwyddiant wrth ennill cyllid ymchwil. Mae UKRI yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i droi hyn yn effaith weladwy i economi a chymunedau Cymru, gan ddatgloi potensial llawn Cymru.”
Roedd y bord gron hefyd yn archwilio sut y gall UKRI a phrifysgolion Cymru weithio gyda’i gilydd i gael gwared ar yr hyn sy’n eu rhwystro rhag llwyddo wrth geisio am gyllid a chryfhau ymgysylltiad ar geisiadau ymchwil yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mwy o gysondeb â Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a strategaeth newydd UKRI sy’n seiliedig ar leoedd.
Bydd Swyddfa Cymru yn parhau i weithio gydag UKRI a phrifysgolion Cymru i fwrw ymlaen â chanlyniadau’r drafodaeth a chefnogi dull mwy cydlynol ac effeithiol o ariannu ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















