25.5 C
Llanelli
Tuesday, July 14, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Diffoddwyr Tân sy’n Dad a Merch yn Nodi 64 Mlynedd o Wasanaeth...

Diffoddwyr Tân sy’n Dad a Merch yn Nodi 64 Mlynedd o Wasanaeth Cyfunol

0
58
Bryan Katrina 04

Y Rheolwr Gwylfa Bryan Davies

Dechreuodd y Rheolwr Gwylfa Bryan Davies ei yrfa diffodd tân fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Talgarth ar 5 Hydref 1982 ac ers hynny ef yw’r Ddiffoddwr Tân sydd wedi gwasanaethu hiraf erioed yn yr orsaf.  Gan dyfu i fyny yng Nghrucywel, roedd wedi’i swyno gan y Gwasanaeth Tân ac Achub o oedran cynnar. Cyn i declynnau galw personol gael eu cyflwyno, byddai seiren yn swnio o ben tŵr yr orsaf dân leol, a byddai Bryan a’i ffrindiau yn rasio i Orsaf Dân Crucywel i wylio’r criw yn dod allan yn eu hinjan.

Roedd 1982 yn flwyddyn fawr i Bryan; priododd ei wraig Jennifer, croesawon nhw eu merch Katrina, symudon nhw i Dalgarth ac fe ymunodd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), sef Gwasanaeth Tân Powys bryd hynny.  Pan ofynnodd cymydog newydd Bryan, a oedd yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, a fyddai’n ystyried ymuno â Gorsaf Dân Talgarth, gwahoddodd ef i’r orsaf am sgwrs a phrawf pwynt mynediad.  Bryd hynny, roedd y prawf yn cynnwys dringo ysgol bren ar dŵr ymarfer yr orsaf, a fyddai’n siglo o ochr i ochr, dad-rolio darn o bibell a chario unigolyn wedi’i anafu. 

Mae’n cofio:

“Doedd yr ysgolion ddim ar gyfer y gwan-galon.  Bydden nhw’n siglo nôl a mlaen wrth i chi ddringo ac roedd y tŵr ymarfer ar dri throed roedden nhw’n pwyso arno hefyd yn siglo – nid jôc mohono!”

Ar ôl cwblhau’r prawf yn llwyddiannus, dechreuodd Bryan ei 12 wythnos o hyfforddiant yn yr orsaf gan ddechrau ymateb i ddigwyddiadau ym mis Mawrth 1983.  Yn ystod ei yrfa, mae Bryan wedi gweld newidiadau mawr yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, yn enwedig mewn offer gwarchod personol (PPE).  Yn ei ddyddiau cynnar, dim ond helmed a thiwnig, nad oedd yn gwrthsefyll tân, legins plastig melyn yr oedd yn rhaid eu torri i’r union faint ac esgidiau glaw arferol oedd yn y cit tân, heb unrhyw fenig na chyflau fflach.  Mae Bryan yn cofio ei diwnig yn mynd ar dân yn ystod tân mewn atig a chlustiau’r Diffoddwyr Tân yn llosgi wrth fynd i’r afael â thanau.

Yn ogystal â gwelliannau i offer gwarchod personol, mae Bryan hefyd wedi gweld gwelliannau sylweddol yn yr injanau tân a ddefnyddir i ymateb i argyfyngau. 

Bryan 01-2

Y Rheolwr Gwylfa Bryan Davies, pellaf i’r dde

Ychwanegodd Bryan:

“Mae’r peiriannau rydyn ni’n eu defnyddio wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd.  Pan ymunais yn 1982 roedd gan yr orsaf beiriant Bedford TK, a oedd â blwch gêr llaw â phedwar cyflymder, dim llyw â phŵer, dim pibellau dŵr pwysedd uchel a dim offer ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffordd.

Diolch byth, mae peiriannau modern heddiw yn llawer mwy datblygedig, maen nhw fel gyrru car mawr.”

Ar ôl gyrfa ryfeddol o 44 mlynedd, bydd Bryan yn ymddeol o’r Gwasanaeth ym mis Hydref eleni.  Bydd ei ymddeoliad yn nodi diwedd mwy na phedwar degawd o ymrwymiad, proffesiynoldeb a gwasanaeth rhagorol i’r cymunedau y mae wedi’u gwarchod. 

Y Diffoddwr Tân Katrina Davies

Gyda’i thad yn dechrau ei yrfa fel Diffoddwr Tân ar Alwad pan oedd hi ond yn ddau fis oed, mae’r Diffoddwr Tân Katrina Davies wedi cael ei hamgylchynu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub trwy gydol ei hoes.

Wrth dyfu i fyny, roedd hi bob amser yn chwilfrydig pan oedd teclyn galw ei thad yn canu ac ni wnaeth erioed golli diwrnod agored blynyddol yr orsaf.  Fe wnaeth sioeau teledu fel Sam Tân a London’s Burning hefyd danio ei diddordeb, yn enwedig yr olaf, a oedd yn dangos Diffoddwyr Tân benywaidd. Helpodd hyn iddi weld bod yna le iddi yn y rôl.

Tua diwedd 2005, yn 23 oed, penderfynodd Katrina wneud cais i ymuno â GTACGC gan gwblhau ei hyfforddiant cychwynnol ym mis Ionawr 2006.  Dim ond ychydig ddyddiau ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, ymatebodd Katrina i’w digwyddiad cyntaf, tân simnai ym Mronllys.

Katrina 01-4

Fel ei thad, mae Katrina wedi gweld llawer o newidiadau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac i rôl Diffoddwr Tân yn ystod ei gyrfa.  Mae hi wedi gweld digideiddio’r hyfforddiant parhaus a ddarperir fel rhan o’r rôl, gwelliannau sylweddol i’r cit ac i’r offer gwarchod personol, a newidiadau i niferoedd y criw dros y blynyddoedd. 

Wrth siarad am ei rôl, dywedodd Katrina:

“Mae’n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad ac rydych chi’n cael cryn dipyn ohoni.  

Rydych chi’n ennill sgiliau achub bywydau amhrisiadwy, yn datblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, ac yn dod yn ffigwr uchel eich parch yn eich cymuned.”

Bryan Katrina 07-2

Gwasanaethu Cymuned Talgarth

Wrth ymateb i ddigwyddiadau a gweithio ar y safleoedd tân, mae Bryan a Katrina yn rhoi eu perthynas deuluol i’r neilltu ac yn gweithredu’n llwyr fel cydweithwyr, pob un â’i rôl a’i gyfrifoldeb diffiniedig eu hunain.

Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gymuned Talgarth a thu hwnt wedi cael eu cydnabod sawl gwaith dros y blynyddoedd.  Yn fwyaf diweddar, ym mis Mawrth 2026, cyflwynwyd Gwobr Barcud Arian Powys i Bryan a Katrina, am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u cyfraniad diflino at ddigwyddiadau lleol a chodi arian.  Mewn cyflwyniad a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Castell yn Aberhonddu, gwobrwywyd y pâr gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd William Powell.

Un peth y mae’r ddau yn awyddus i’w gofio yw’r gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan eu teulu.  Yn aml mae’r gefnogaeth hon yn cael ei thanamcangyfrif a’i thanbrisio.  Heb gefnogaeth gwraig Bryan a mam Katrina, Jennifer, ynghyd â’r teulu ehangach, mae yna adegau pan na fyddent wedi gallu ymateb i ddigwyddiadau.

Bryan Katrina 05-2
Bryan Katrina 06-2
Bryan Katrina 03-2
Bryan Katrina 02-2

30 Mlynedd o GTACGC

Ers ei ffurfio ym 1996, mae’r Gwasanaeth wedi tyfu i fod yn un o’r sefydliadau tân ac achub mwyaf yn y DU, gan gwmpasu tirwedd eang ac amrywiol sy’n cynnwys cymunedau gwledig, trefi arfordirol, a chanolfannau trefol prysur.

Dros y blynyddoedd, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi hyrwyddo addysg diogelwch tân, ac wedi addasu’n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.

Darllenwch fwy yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleWalking expert shares top tips for completing the Wales Coast Path this summer
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.